First Minister Mark Drakeford has today published a framework and seven key questions to help lead Wales out of the coronavirus pandemic.
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi heddiw [dydd Gwener Ebrill 24] fframwaith a saith cwestiwn allweddol i helpu i arwain Cymru allan o bandemig y coronafeirws.
Bydd y fframwaith yn helpu i benderfynu pryd bydd posib dechrau llacio’r cyfyngiadau aros gartref llym ac yn helpu i ddod o hyd i ffordd i bobl yng Nghymru fyw a gweithio ochr yn ochr â’r coronafeirws.
Mae rhaglen ledled Cymru o oruchwylio, adnabod achosion ac olrhain y clefyd yn cael ei datblygu drwy swyddfa’r Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton. Bydd hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd profi cymunedol a chefnogi cyfyngu ar heintiau coronafeirws newydd fel a phan mae’r cyfyngiadau’n cael eu llacio.
Wrth lansio’r fframwaith, dywedodd y Prif Weinidog:
Mae ein dull ni o weithredu hyd yma wedi cynnwys cyfyngiadau symud. Rydyn ni wedi rhoi camau digynsail ar waith i warchod pawb, ond yn benodol y rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf o salwch difrifol.
Mae hyn wedi helpu’r GIG i baratoi ac ymdopi gyda’r coronafeirws ac er ein bod ni wedi gweld mwy na 640 o bobl yn marw yn anffodus, mae wedi helpu i achub llawer mwy o fywydau. Ond mae’r strategaeth hon wedi costio o ran iechyd a lles ehangach pobl a’r costau yn y tymor hir i’n heconomi ni.
Rydyn ni’n parhau i adolygu’r rheoliadau hyn yn gyson. Rydyn ni’n gwybod y bydd y coronafeirws gyda ni am amser hir eto ond rydyn ni eisiau gweld a oes pethau y gallwn ni eu gwneud wrth i ni barhau i fynd i’r afael â’r feirws a pharhau i chwilio am well triniaethau a brechlyn.
Bydd y fframwaith – a’r saith cwestiwn – yn helpu i benderfynu pryd yw’r amser priodol i lacio rhai o’r rheoliadau aros gartref.
Dyma’r saith cwestiwn:
- A fyddai llacio’r cyfyngiadau’n cael effaith negyddol ar reoli’r feirws?
- A yw mesur penodol yn creu risg isel o haint pellach?
- Sut gellir ei fonitro a’i orfodi?
- A oes modd ei wyrdroi’n gyflym os bydd yn creu canlyniadau anfwriadol?
- A oes mantais economaidd bositif?
- A yw’n cael effaith bositif ar les pobl?
- A yw’n cael effaith bositif ar gydraddoldeb?
Mae swyddfa Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi datblygu’r rhaglen ledled Cymru o oruchwylio, adnabod achosion ac olrhain y clefyd.
Bydd yn cynnwys pedair prif elfen – gwell goruchwyliaeth ar achosion o’r coronafeirws; adnabod achosion yn effeithiol ac olrhain cyswllt; dysgu oddi wrth brofiad rhyngwladol ac ymgysylltu â’r cyhoedd.
Dywedodd Dr Atherton:
Bydd rhaid cefnogi’r camau gweithredu i lacio’r cyfyngiadau symud gydag ymateb iechyd cyhoeddus cynhwysfawr y bydd rhaid ei ddatblygu’n gyflym ac ar raddfa fawr.
Ledled y DU, rydyn ni wedi gweithio a sefydlu mesurau digynsail er mwyn rheoli ac oedi lledaeniad y coronafeirws. Hefyd rydyn ni wedi gweithio i leihau effaith gyffredinol y feirws drwy gryfhau gwasanaethau hanfodol, gan gynnwys gofal iechyd.
Rydyn ni’n gweithio nawr tuag at gyfnod adfer newydd i’n harwain ni allan o’r pandemig ond dim ond pan mae’r amodau’n briodol.
Ychwanegodd y Prif Weinidog:
Nid yw’r coronafeirws yn mynd i ddiflannu – mae’n debygol y bydd yma gyda ni am amser hir. Bydd rhaid i ni fod â rhyw fath o gyfyngiadau yn eu lle am beth amser eto er mwyn parhau i reoli lledaeniad y feirws a throsglwyddo cymunedol. Bydd y fframwaith hwn yn ein helpu ni i benderfynu beth sy’n iawn i Gymru.
Mae ffordd hir o’n blaen ni tuag at adfer i’r lefelau cyn y pandemig, ond os gwnawn ni barhau i gydweithio, rydw i’n gobeithio y bydd posib i ni wneud newidiadau i’r cyfyngiadau a gweld dychwelyd yn raddol at rywbeth sy’n debyg i fywyd normal.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos gyda gweddill y DU drwy gydol y pandemig ac wedi rhannu datblygiad y fframwaith gyda llywodraethau’r Alban, Gogledd Iwerddon a’r DU.