Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi enwau'r rheini sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Dewi Sant eleni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dyma'r deuddegfed tro i Wobrau blynyddol Dewi Sant gael eu dyfarnu, ar ôl i’r rhai cyntaf yn cael eu cyflwyno yn 2014.

Caiff tri eu dewis yn deilyngwyr ar gyfer pob un o'r 11 o Wobrau, ac mae'r bobl yn y 10 categori cyntaf yn cael eu henwebu gan y cyhoedd:

  • Busnes
  • Dewrder
  • Pencampwr y Gymuned
  • Diwylliant
  • Pencampwr yr Amgylchedd
  • Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  • Gwobr Gwasanaeth Cyhoeddus
  • Chwaraeon
  • Gwirfoddolwr
  • Person Ifanc
  • Gwobr Arbennig y Prif Weinidog

Mae'r rheini sy'n cyrraedd y rownd derfynol ym mhob categori yn cael eu dewis gan banel annibynnol, ar sail enwebiadau a anfonir gan bobl ledled Cymru. Mae'r enillwyr yn cael eu dewis gan y Prif Weinidog.

Y Prif Weinidog sy'n dewis pwy sy'n cael y Wobr Arbennig, a gallai'r Wobr honno adlewyrchu rhywbeth a gyflawnwyd ac y cyd yn ogystal â rhywbeth a gyflawnwyd gan unigolyn.

Bydd pob enillydd yn cael tlws Gwobrau Dewi Sant, sydd wedi'i ddylunio a'i wneud gan artist blaenllaw o Gymru. Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal ddydd Iau 27 Mawrth 2025 yn y Senedd.

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:

Mae cael enwi teilyngwyr Gwobrau Dewi Sant am y tro cyntaf yn fraint aruthrol. Mae'r Gwobrau yn dod â'r goreuon o Gymru ynghyd, ac yn dangos enghreifftiau gwych inni o'r cyfraniad cadarnhaol y gall pobl ei wneud i fywydau pobl eraill.

Mae gennym restr anhygoel o deilyngwyr eleni, sy'n llawn straeon ysbrydoledig a hanesion am bobl sydd wedi cyflawni gorchestion aruthrol. Alla i ddim aros i weld y teilyngwyr eto yn y seremoni wobrwyo fis nesaf.

Mae'r rhestr lawn o deilyngwyr i'w gweld yma.