Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi mewn digwyddiad yn y Senedd pwy sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Dewi Sant eleni.
Gwobrau eleni fydd yr unfed ar ddeg. Cafodd y gwobrau eu cyflwyno am y tro cyntaf yn 2014.
Bydd tri o deilyngwyr yn cael eu dewis ar gyfer pob un o'r 10 o Wobrau Dewi Sant, gyda'r rheini yn y naw categori cyntaf yn cael eu henwebu gan y cyhoedd:
- Busnes
- Dewrder
- Ysbryd y Gymuned
- Gweithiwr Hanfodol (Gweithiwr Allweddol)
- Diwylliant
- Yr Amgylchedd
- Arloesi, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Chwaraeon
- Person Ifanc
- Gwobr Arbennig y Prif Weinidog
Mae'r teilyngwyr ym mhob categori yn cael eu dewis, ar sail enwebiadau gan y cyhoedd, gan banel annibynnol o bobl sy'n amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru. Mae'r enillwyr yn cael eu dewis gan y Prif Weinidog.
Y Prif Weinidog sy'n dewis pwy sy'n cael y Wobr Arbennig, a gallai’r Wobr honno adlewyrchu rhywbeth a gyflawnwyd ac y cyd yn ogystal â rhywbeth a gyflawnwyd gan unigolyn.
Bydd pob enillydd yn cael tlws Gwobrau Dewi Sant, sydd wedi'i ddylunio a'i wneud gan artist blaenllaw o Gymru. Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ddydd Iau 11 Ebrill.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:
"Unwaith eto, mae gennym restr anhygoel o deilyngwyr ar gyfer Gwobrau Dewi Sant eleni. Bob blwyddyn, mae'r gwobrau'n dod â rhai o'r bobl ddewraf a fwyaf disglair o bob rhan o Gymru at ei gilydd – pobl sydd wedi dangos bod ganddynt y gallu i arwain o dan amgylchiadau anodd ac sydd wedi ysbrydoli eraill.
"Mae wedi bod yn fraint imi gael dewis yr enillwyr dros y pum mlynedd diwethaf. Byddaf yn dilyn rownd derfynol eleni mor frwd ag erioed a dw i wir yn edrych ’mlaen at weld pwy fydd yr enillwyr."
Mae'r rhestr o deilyngwyr i'w gweld yma.