Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi enwi syrffiwr, swyddog yr heddlu a chyn-ornestwr crefft ymladd ymhlith teilyngwyr Gwobrau Dewi Sant 2020.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwobrau cenedlaethol Cymru yw Gwobrau Dewi Sant. Maent yn dathlu llwyddiannau eithriadol unigolion yng Nghymru.

Wrth gyhoeddi’r teilyngwyr, dywedodd y Prif Weinidog:

“Mae’n fraint imi gael enwi teilyngwyr Gwobrau Dewi Sant 2020 – am grŵp o unigolion sy’n ysbrydoliaeth! Rydyn ni’n hynod lwcus bod gennym ni unigolion fel hyn yn byw ac yn gweithio yng Nghymru.

“Mae’r gwobrau yn ddathliad o fywyd unigolion sy’n gwneud Cymru yn lle gwell i fyw. Mae pob un o’r teilyngwyr wedi gwneud gwahaniaeth mawr, o achub bywyd, i oresgyn trallod, i ysbrydoli eraill, neu gefnogi cymuned.

“Mae pob un o deilyngwyr ein Gwobrau Dewi Sant wir yn eithriadol ac maen nhw’n glod i’n cenedl. Rydw i’n edrych ymlaen at ddathlu eu llwyddiannau yn y seremoni wobrwyo ddydd Iau 19 Mawrth.”

Mae’r gwobrau wedi cael eu rhannu o dan y categorïau canlynol: Dewrder; Diwylliant; Busnes; Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg; Chwaraeon a Pherson Ifanc. Mae yna hefyd ddau gategori newydd: Ysbryd y Gymuned, a Dyngarol.

Y Prif Weinidog sy’n dewis enillydd y wobr olaf, Gwobr Arbennig y Prif Weinidog, a bydd ei enw yn cael ei gyhoeddi yn y seremoni fis Mawrth.

Dyma'r rhestr fer:

Dewrder

DC Jessica Hanley

Jo Morris

Joel Snarr a Daniel Nicholson

Busnes

Adrian Emmett

Moneypenny

Penderyn Whiskey

Tŷ-Mawr Lime

Ysbryd y Gymuned

Community Furniture Aid

Dr Howell Edwards

Wasem Said

Diwylliant

Academi Ffilm Blaenau Gwent

Ifor ap Glyn

Russell T Davies

Dyngarol

Emma Lewis

Rachel Williams

Robin Jenkins

Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Aber Instruments Ltd

GAMA Healthcare a Phrifysgol Caerdydd

Yr Athro David Worsley

Chwaraeon

Alun Wyn Jones

SportCheer Wales

Tîm Rhoi Organau Cymru

Pherson Ifanc

Alexander Anderson

Michael Bryan

Tyler Ford