Neidio i'r prif gynnwy

Rhaid i Gymru ac Iwerddon gydweithio i oresgyn heriau masnach ar ôl Brexit.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y Prif Weinidog yn dweud y byddai creu ffin ‘galed’ rhwng Prydain a Gweriniaeth Iwerddon, wrth i Lywodraeth y DU fynnu gadael y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau, yn fygythiad gwirioneddol i economïau Cymru ac Iwerddon.

Mae porthladdoedd yn cyfrannu'n helaeth iawn at economi Cymru, gan gynnal tua 11,000 o swyddi a gweithredu fel canolfan economaidd a phorth i fasnachu gydag Ewrop a gweddill y byd.

Mae 80% o'r nwyddau sy'n cael eu cludo rhwng Gweriniaeth Iwerddon ac Ewrop mewn cerbydau HGV a gofrestrwyd yn Iwerddon yn pasio drwy borthladdoedd Cymru. Yn 2016, teithiodd 524,000 o lorïau drwy brif borthladdoedd Cymru wrth gludo nwyddau rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon.

Yn ddiweddar fe lansiodd y Prif Weinidog bapur Llywodraeth Cymru ynghylch masnach ar ôl Brexit, gan nodi'r heriau sy'n wynebu porthladdoedd Cymru. Roedd yn tynnu sylw at y ffaith mai'r mater pwysicaf i borthladdoedd Cymru yw parhau i fedru symud nwyddau a phobl yn rhydd drwy drefniadau tollau di-dor.

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Byddai newidiadau i'r rheolau tollau sy'n ychwanegu mwy o gostau, mwy o amser a mwy o waith rheoleiddio i borthladdoedd Cymru yn golygu eu bod yn llawer llai effeithiol. Gallai hynny yn ei dro annog cludo nwyddau drwy ffyrdd heblaw’r llwybrau morol rhwng Cymru ac Iwerddon. Byddai hynny’n niweidiol tu hwnt i'n heconomi.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llawn i wneud ei rhan i gefnogi Cytundeb Gwener y Groglith, ond does dim modd i mi gefnogi unrhyw ganlyniad a fyddai'n gwyro'r traffig oddi wrth Gaergybi, Abergwaun a Doc Penfro tuag at rannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

"Rhaid sicrhau tegwch rhwng Prydain ac Iwerddon. Dydw i ddim eisiau gweld ffin galed ar ynys Iwerddon, ond dyw i ddim chwaith eisiau gweld safleoedd tollau ym mhorthladdoedd Cymru.

"Dyna pam mai'r opsiwn gorau yw i'r Deyrnas Unedig yn gyfan barhau i fod yn rhan o'r Farchnad Sengl a bod yn aelod o undeb tollau. Byddai hynny'n datrys y broblem hon yn llwyr. Dyna hefyd sydd orau i economïau Cymru ac Iwerddon ac, yn wir, i economïau’r DU yn gyfan. Ac fel yr ydyn ni wedi gwneud yn glir, ddylai ymadael â’r UE ddim effeithio ar drefniadau’r Ardal Deithio Gyffredin.

"Rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod y Taoiseach er mwyn trafod y mater hwn, yn ogystal â phwysigrwydd cadw cysylltiad agos rhwng Cymru ac Iwerddon wrth i'r Deyrnas Unedig baratoi i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd."

Mae Iwerddon yn allweddol o ran mewnfuddsoddiad i Gymru, gyda dros 50 o gwmnïau dan berchnogaeth Wyddelig yng Nghymru yn cyflogi 2,500 o bobl. Iwerddon hefyd yw un o brif gyrchfannau allforion Cymru, gyda’r allforion o Gymru i’r Iwerddon werth £902 miliwn yn 2016.

Ar ei ymweliad â Dulyn, bydd y Prif Weinidog hefyd yn bresennol mewn trafodaeth ynghylch Seilwaith a Brexit dan gadeiryddiaeth Siambr Fasnach Prydain ac Iwerddon, a dan nawdd Ysgol Fusnes Coleg y Drindod Dulyn. Bydd yn ymweld ag Irish Ferries, a chyfarfod Llysgennad Prydain, Robin Barnet CMG ac aelodau Cymdeithas Seneddol Prydain ac Iwerddon.