Bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones ym Mrwsel heddiw i gyfarfod Michel Barnier, Prif Negodydd Ewrop ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE.
Mae'r cyfarfod yn gyfle i adeiladu perthynas uniongyrchol rhwng Llywodraeth Cymru a thîm Brexit yr UE, ar sail parch ac ewyllys da, a chyflwyno safbwynt Cymru ar y negodiadau.
Bydd y Prif Weinidog yn cyflwyno Papur Gwyn Llywodraeth Cymru, Diogelu Dyfodol Cymru, i Mr Barnier. Mae'r papur hwnnw'n cynnig man cychwyn ymarferol ar gyfer negodiadau, gan gydbwyso pryderon ynghylch mewnfudo gyda realiti economaidd sy'n golygu bod cymryd rhan yn y farchnad sengl yn hanfodol ar gyfer ffyniant y DU yn y dyfodol.
Mae'r cyfarfod hefyd yn gyfle i gael gwell dealltwriaeth o safbwynt negodi'r UE ac i bwysleisio bod Cymru am gadw cysylltiad agos gyda'n cymdogion Ewropeaidd ar ôl i'r DU ymadael â'r UE.
Bydd y Prif Weinidog hefyd yn pwysleisio'r angen am drefniadau pontio cadarn i roi amser i’r negodiadau arwain at berthynas hirdymor sy'n gweithio ar gyfer Ewrop gyfan.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:
"Rwy'n edrych ymlaen at gael trafodaeth aeddfed, synhwyrol gyda Mr Barnier am ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd. Mae gan Lywodraeth Cymru berthynas gynnes ac enw da gyda’r Comisiwn Ewropeaidd eisoes, ac rwy'n awyddus i ddangos bod rhannau o'r Deyrnas Unedig yn barod i drafod yn adeiladol gyda gweddill gwledydd yr Undeb Ewropeaidd, yn hytrach na chwarae i'r gynulleidfa.
"Mae’n Papur Gwyn yn amlinellu ein safbwyntiau ar nifer o'r prif faterion, sy’n wahanol i safbwyntiau a fynegwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig hyd yma, ond sydd o bosib yn ennyn mwy o gefnogaeth ar lawr gwlad. Dyma gyfle pwysig iawn i mi egluro hyn i Mr Barnier.
"Fy mhrif gyfrifoldeb i fel Prif Weinidog Cymru bob tro yw cael y fargen orau ar gyfer swyddi ac economi Cymru. Gyda 67% o holl allforion Cymru’n mynd i Ewrop, mae’n gwbl hanfodol i ni gadw mynediad llawn a dirwystr at y Farchnad Sengl. Byddai'n anghyfrifol i ni droi ein cefnau ar hyn.
"Bydd ein ffrindiau a'n cymdogion yn Ewrop yn parhau i fod yn ffrindiau ac yn gymdogion i ni ar ôl i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ac mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd ymlaen gyda'n gilydd i roi sylw i'r heriau cyffredin sydd o'n blaen. Does neb, yn arbennig y rhai ohonom sydd am gadw cysylltiad economaidd agos gyda'n cymdogion Ewropeaidd, am weld sefyllfa lle nad oes modd dod i gytundeb neu rwyg poenus rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd. Byddwn yn gwneud unrhyw beth o fewn ein gallu i osgoi hynny."