Gan groesawu cyhoeddi adroddiad newydd sy’n galw am ddiwygio cyfansoddiad y DU ar “batrwm ffederal radical”, dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford:
“Mae bron i ddegawd wedi bod ers i’r cyn Brif Weinidog, Carwyn Jones, alw am gonfensiwn cyfansoddiadol. Er yr holl amser ers y syniad hwnnw, mae ymdrechion Carwyn i gynnal y cynnig syml hwnnw wedi dwyn ffrwyth yn yr adroddiad newydd hwn.
“Ac mae angen ateb ar fyrder. Mae perygl gwirioneddol i’r Deyrnas Unedig chwalu.
“Mae annibyniaeth yn ymateb o’r 19eg ganrif i broblem yn yr 21ain ganrif. Slogan yw ef, nid ateb.
“Rhaid i’r rhai ohonom sy’n credu mai’r ffordd orau o ddiogelu dyfodol Cymru yw drwy setliad datganoli pwerus a sefydlog, o fewn Teyrnas Unedig lwyddiannus, arwain y ddadl honno.
“Rhaid i’r ddadl beidio â bod yn amddiffyniad o’r sefyllfa bresennol. Rhaid iddi beidio ag ildio i symlrwydd Undeboliaeth neu Genedlaetholdeb. Yn hytrach, rhaid ail-lunio’r Deyrnas Unedig mewn modd radical.
“Rhaid inni fynd ati i greu undeb newydd – ac mae’r papur hwn yn cynnig llawer o’r syniadau a fydd yn angenrheidiol er mwyn i’r prosiect hwnnw lwyddo. Mae wedi’i seilio ar y cynnig syml, ond cwbl radical, mai cymdeithas wirfoddol o bedair gwlad yw’r Deyrnas Unedig, lle caiff sofraniaeth ei rhannu ymysg pedair deddfwrfa a etholir yn ddemocrataidd.
“Cymaint â phosibl, dylai penderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau pob dydd pobl gael eu gwneud mor agos â phosibl at y bobl hynny, ond pan fo’r rhannau gwahanol o’r Deyrnas Unedig yn dewis dod at ei gilydd i gyfuno adnoddau a rhannu’r buddion, mae hynny hefyd yn rhan bwerus o’r fargen.
“Dyna pam rwy’n credu ym mhotensial y Deyrnas Unedig fel peiriant ailddosbarthu pwerus, sy’n rhoi mwy o gyfran a chyfran fwy teg o gyfoeth ac incwm yn nwylo’r rhai sydd â’r angen mwyaf – ym mha ran bynnag o’r Deyrnas Unedig y mae hynny.”