Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prif Weinidog Cymru wedi canmol tîm pêl-droed Cymru, a’u cefnogwyr, am y ffordd y maen nhw wedi cynrychioli Cymru yn ystod twrnamaint cyffrous Euro 2016 yn Ffrainc.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyma’r tro cyntaf i’r tîm gyrraedd pencampwriaeth fawr ers 1958. Cymru oedd flaenaf yn eu grŵp cyn mynd yn eu blaenau i rownd gynderfynol y bencampwriaeth bêl-droed ryngwladol bwysig hon.  Mae dros 90,000 o gefnogwyr o Gymru wedi bod yn un neu fwy o’r gemau, gyda miloedd yn rhagor yn bloeddio’u cefnogaeth o’u cartrefi, eu tafarndai, ac ardaloedd cefnogwyr yng Nghymru a Ffrainc. 

Meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: 

“Ar ôl disgwyl am 58 o flynyddoedd am le mewn pencampwriaeth fawr, nid yw Euro 2016 wedi siomi.  Roedd cyrraedd y twrnamaint ei hun yn orchest ond diolch i’n perfformiadau yn Ffrainc, mae hi wedi bod yn amhosib ein diystyru.  Sôn am daith mor gyffrous sydd wedi cydio yn nychymyg y genedl!

“Ond mae hon wedi bod yn fwy na phencampwriaeth bêl-droed i Gymru – mae hi wedi bod yn gyfle digynsail i ddangos i bawb ein bod yn wahanol.  Bod gennym ddiwylliant unigryw, gwerthoedd unigryw a phobl unigryw – ac mae biliynau o bobl trwy’r byd yn deall hynny erbyn hyn. 

“Am hynny, rhaid inni ganmol ein cefnogwyr.  Cafodd Bordeaux, Lens, Toulouse, Paris, Lille a Lyon eu troi’n foroedd coch wrth i ddegau o filoedd o gefnogwyr Cymru ddathlu arwriaeth eu tîm gydag angerdd, balchder a hwyl a fydd yn aros yn hir yn y cof. 

“Mae perfformiad y tîm ar y cae wedi bod yn wych, felly hefyd yr argraff mae’n cefnogwyr wedi’i gadael ar Ffrainc ac ar weddill y byd – mae’ch gwlad yn falch iawn iawn ohonoch chi.” 

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi sy’n gyfrifol am chwaraeon elite:

“Gyda threigl pob gêm dros yr wythnosau a misoedd diwethaf, mae tîm pêl-droed Cymru wedi creu ychydig bach o hanes. O’r gemau rhagbrofol i’r rownd gynderfynol, mae hi wedi bod yn gamp gwerth ei gweld. 

“Mae Chris Coleman wedi creu grŵp arbennig o fechgyn sydd wedi profi dro ar ôl tro o gyfuno gallu, ysbryd a dyhead, does dim byd yn amhosib.  Gorau Chwarae, Cyd-Chwarae, Together Stronger – catalydd ardderchog ar gyfer chwaraeon Cymru a neges aruthrol i’w hanfon at unrhyw gyw Gareth Bale neu Jess Fishlock ar hyd a lled Cymru. 

“Mae pêl-droed Cymru bellach ar fap y byd.  Llongyfarchiadau i bawb a diolch am roi gwên ar wynebau cymaint o’ch cyd-Gymry”.