Bydd Carwyn Jones y Prif Weinidog yn bresennol mewn digwyddiadau yn Ne Cymru a Gogledd Ffrainc i anrhydeddu’r milwyr hynny a ymladdodd ym Mrwydr y Somme.
Bydd y Prif Weinidog yn arwain y dathliadau coffa mewn gwylnos dros nos yn Eglwys Gadeiriol Llandaf nos yfory [Dydd Iau 30 Mehefin] cyn cynrychioli Cymru yfory mewn gwasanaeth coffa yng Nghofeb Thiepval i’r Milwyr Coll.
Caiff y cyhoedd eu gwahodd i’r wylnos dros nos yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, a ddaw i ben gyda gwasanaeth cyhoeddus yn y Gofeb Rhyfel Genedlaethol ym Mharc Cathays am 7.30 ddydd Gwener. Mae’r wylnos yn rhan o raglen Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 Llywodraeth Cymru, sy’n nodi can mlwynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae’r gwasanaeth yng Nghofeb Thiepval wedi ei drefnu ar y cyd gan Lywodraethau Ffrainc a’r Deyrnas Unedig, a dyma’r prif ddigwyddiad i gofio’r Frwydr, oedd yn un o’r brwydrau pwysicaf yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Meddai Carwyn Jones y Prif Weiniodg: “Mae’n fraint imi gynrychioli Cymru yn y digwyddiadau cofio, a thalu teyrnged i’r rhai hynny a gollodd eu bywydau yn ystod un o’r brwydrau mwyaf a gwaethaf yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
“Ni ddylid anghofio’r rhai hynny a ymladdodd yn ddewr ar gyfer ein dyfodol. Bydd yn arbennig o drist i sefyll wrth Gofeb Thiepval i anrhydeddu’r 72,000 o ddynion ifanc a fu farw yn y Somme, ond na ddaethpwyd hyd i’w cyrff. Bu i’r milwyr dewr hyn dalu’r pris eithaf am ein rhyddid.”