Neidio i'r prif gynnwy

Agorwyd ysgol newydd o’r radd flaenaf yng Nghwm Rhymni heddiw gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd Ysgol Idris Davies ei hagor yn lle Ysgolion Cynradd Abertyswg a Phontlotyn ac fe’i hunwyd hefyd ag ysgol gyfun Cwm Rhymni i ffurfio campws 3-18 oed.

Gyda chymorth dros £4 miliwn gan Lywodraeth Cymru, bydd yr ysgol yn cynnig y cyfleusterau addysg gorau posibl i ddisgyblion a staff ac yn helpu i wella safonau addysgol ar draws y sir.

Mae gan yr ysgol ardal eang yn yr awyr agored sy’n cynnwys cyfarpar chwarae, llecyn i blannu planhigion ar gyfer y clwb garddio ac amffitheatr i gynnal gweithgareddau addysgu a digwyddiadau yn yr awyr agored. Bydd yr ysgol hefyd yn gartref i gyfleusterau gofal plant rhan-amser o’r radd flaenaf ar gyfer y rhaglen Dechrau’n Deg gan gynnig sesiynau yn y bore i blant a rhaglenni magu plant o dan y cynllun Teuluoedd yn Gyntaf.

Yn ystod yr ymweliad dywedodd y Prif Weinidog:

“Mae’n bleser gen i agor yn swyddogol yr ysgol newydd, sef Ysgol Idris Davies, gyda chymorth £4 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Mae’r ysgol, sydd wedi’i henwi ar ôl y bardd enwog o fri o Gymru, wedi’i thrwytho mewn hanes – ond heddiw, dyma’r ysgol yn dod yn rhan o’r 21fed ganrif.

“Mae wedi bod yn dda cael siarad â disgyblion a chlywed ganddyn nhw sut mae’r cyfleusterau newydd yma sydd o’r radd flaenaf ar y campws 3-18 newydd yn eu helpu nhw i ddysgu, i gael eu hysbrydoli ac i fanteisio i’r eithaf ar yr hyn mae’r ysgol yn ei gynnig o ddydd i ddydd.”

Yn ystod yr agoriad swyddogol, trefnwyd cyngerdd i’r Prif Weinidog a gwahoddedigion, gydag eitemau gan y disgyblion ysgol.