Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw agorodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ysgol gynradd newydd o'r radd flaenaf ym Mhen-y-Bont ar Ogwr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ysgol Gynradd Betws yw'r bumed ysgol o'i bath i gael ei hadeiladu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros y bum mlynedd ddiwethaf gyda diolch i gynllun cyllido Llywodraeth Cymru. Mae'r Rhaglen i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif yn rhoi cymorth i ysgolion er mwyn iddynt allu diweddaru eu hadeiladau, eu hardaloedd tu allan a'u hoffer TG er mwyn gallu diwallu gofynion modern.

Cafodd yr ysgol flaenorol ei dymchwel ar ôl iddi gael ei difrodi gan dân, ond bellach mae dau adeilad modern newydd wedi eu codi yn ei lle, sef: Ysgol Gynradd newydd Betws ac Ysgol Gynradd Gymraeg Calon Y Cymoedd, ysgol cyfrwng Cymraeg sydd wedi cael ei hadleoli o Bontycymer.

Mae'r adeilad newydd yn rhan o fuddsoddiad gwerth £10.8 miliwn ar gyfer de Cwm Garw, sydd wedi'i gefnogi gan £5.4 miliwn oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Ym mis Tachwedd, cyhoeddodd Lywodraeth Cymru ail rownd o fuddsoddiadau yn y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif lle bydd £2.3 biliwn pellach yn cael ei fuddsoddi er mwyn moderneiddio'r seilwaith addysg ledled Cymru.

Er bod yr ysgol wedi bod yn croesawu disgyblion ers Ionawr, bydd ymweliad y Prif Weinidog yn dathlu dechrau blwyddyn academaidd lawn gyntaf yr ysgol. Ar ôl i'r tân yn 2012 ddinistrio bloc cynradd yr ysgol, roedd y disgyblion yn cael eu gwersi mewn ystafelloedd dosbarth cludadwy.

Cyn yr agoriad swyddogol dywedodd Carwyn Jones,

"Mae'n anrhydedd i mi gael agor Ysgol Gynradd Betws. Mae'n gyfle gwych i fi gael gweld drosto i fy hunan sut mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ac ysgolion i wella addysg yng nghymunedau Cymru.

"Mae Cymru'n benderfynol o godi safonau a sicrhau addysg deg a chyfartal i bob plentyn yn ein gwlad.

“Ein Rhaglen i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yw'r buddsoddiad mwyaf mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud yn ein hysgolion a'n colegau ers y 1960au. Bydd hyn yn sicrhau bod gan Gymru y cyfleusterau addysg a fydd nid yn unig yn ennyn balchder yn genedlaethol, a bydd gwledydd eraill yn genfigennus ohonynt."

Dywedodd Liz Pearce, Pennaeth Ysgol Gynradd Betws:

"Mae disgyblion Ysgol Gynradd Betws yn falch iawn o'u hysgol newydd ffantastig. Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru ynghyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddatblygu Ysgolion yr 21ain Ganrif wedi rhoi cyfle i'n disgyblion fanteisio ar ddysgu o'r radd flaenaf.

"O'r acwsteg arbennig a'r lliwiau llachar hyfryd ar y muriau i'r ardaloedd chwarae meddal a'r ardal chwaraeon pob tywydd, gall ein disgyblion ddysgu mewn amgylchedd dysgu heb ei ail."

"Rydym yn falch iawn i groesawu’r Prif Weinidog yma heddiw, gan ein bod yn gwybod ei fod hefyd yn frwd iawn dros bobl ifanc Cymru. Rydym yn ddiolchgar iawn iddo am ddod yma i agor ein hysgol, gan ein bod yn gwybod ei fod yn brysur iawn."

Gwnaeth y Prif Weinidog ddadorchuddio plac fel rhan o'r seremoni agoriadol, gyda Maer Pen-y-bont ar Ogwr, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a'i Aelod o'r Cabinet dros Addysg ac Adfywio.