Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi agor swyddfa newydd Llywodraeth Cymru ym Montréal yn swyddogol.
Agorwyd y swyddfa newydd yng Nghanada fel rhan o ymdrechion Llywodraeth Cymru i ehangu ei gwaith tramor. Y nod yw hybu masnach a mewnfuddsoddi i farchnadoedd newydd a marchnadoedd sydd eisoes yn bodoli, a hyrwyddo Cymru i'r byd.
Mae Cymru'n allforio mwy a mwy i Ganada, gyda chynnydd o bron i 70% yn yr allforion yn ystod y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2017 o gymharu â'r 12 mis blaenorol. Amcangyfrifwyd eu bod werth tua £392 miliwn.
Mae Canada hefyd yn fewnfuddsoddwr gwerthfawr, gyda dros 25 o gwmnïau o’r wlad yn dewis sefydlu yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf gan gyflogi dros 4,000 o bobl. Yn eu plith mae CGI, cwmni â'i bencadlys ym Montréal.
I gwmnïau o Ganada o'r sector TGCh, Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol, Awyrofod a Gweithgynhyrchu, mae Cymru’n lle ardderchog i fuddsoddi.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:
"Mae agor ein swyddfa newydd ym Montréal yn brawf o’r camau cadarnhaol a rhagweithiol rydyn ni'n eu cymryd i gynyddu ein presenoldeb mewn marchnadoedd byd-eang pwysig fel Canada, a chynyddu masnach a mewnfuddsoddiad. Mae hyn yn bwysicach nag erioed wrth i ni baratoi ar gyfer y posibilrwydd - nad ydyn ni am ei weld - o orfod masnachu y tu allan i'r Farchnad Sengl ac Undeb Tollau'r Undeb Ewropeaidd.
"Rydyn ni hefyd yn awyddus i ddenu mwy o fyfyrwyr o Ganada i ddilyn o leiaf ran o'u hastudiaethau yng Nghymru. Bydd ein swyddfa newydd ym Montréal yn ein helpu i feithrin a thyfu ein cysylltiadau, sydd eisoes yn gryf, â sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, ac yn ein helpu i ddenu mwy o fyfyrwyr o Ganada i astudio yng Nghymru."
Ar hyn o bryd mae bron i 300 o fyfyrwyr o Ganada yn astudio ym mhrifysgolion Cymru. Bydd agor swyddfa newydd ym Montréal yn helpu i hybu'r cysylltiadau hyn a chynyddu nifer y myfyrwyr o Ganada sy'n astudio mewn Sefydliadau Addysg Uwch a Phellach yng Nghymru.
Mae gan Gymru gysylltiadau cryf eisoes â Phrifysgolion Canada. Yn eu plith mae trefniant cyfnewid Prifysgol Aberystwyth â Phrifysgol McGill, Montréal a phrosiect Horizon 2020 rhwng Ysgol Gwyddorau'r Ddaear Prifysgol Caerdydd ac Université Laval ym Montréal.