Bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn agor y ffordd gyswllt Dwyrain y Bae yng Nghaerdydd heddiw, sy’n werth £57 miliwn.
Bydd y ffordd ddeuol, fydd yn cael ei henwi wedi’r peiriannydd a’r cynllunydd diweddar, Ewart Parkinson, yn gwella cysylltiadau â Bae Caerdydd, gan leihau amseroedd teithio a helpu i ysgafnhau tagfeydd yng nghanol y ddinas.
Bydd Ffordd Ewart Parkinson hefyd yn hwb i’r economi leol trwy wella mynediad i Barth Menter Canol Caerdydd a gwella cysylltiadau ar draws y ddinas yn ehangach.
Roedd y ffordd, a gwblhawyd gan Dawnus Ferrovial Agroman ar amser ac o fewn y gyllideb, yn cynnig 13 o brentisiaeth, dau leoliad profiad gwaith a swyddi i naw o raddedigion a 27 o bobl fu’n ddiwaith ers amser.
Meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones:
“Dwi’n falch iawn o agor Ffordd Ewart Parkinson yn swyddogol, fydd yn hwb sylweddol i ganol dinas Caerdydd a’r Bae. Bydd cymudwyr yn manteisio o’r ffordd gynt ac amseroedd teithio llai, a’r trigolion lleol yn gweld llai o draffig a tharfu yn eu hardal.
“Mae gwella seilwaith a chysylltiadau trafnidiaeth, lleihau amseroedd teithio a chreu swyddi wedi bod yn ymrwymiad hirdymor i’m Llywodraeth ac mae’r prosiect mawr hwn yn enghraifft arall o sut yr ydym yn cyflawni’r addewidion hyn.”
Meddai’r Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth Cyngor Caerdydd:
“Mae’n wych gweld cam cyntaf ffordd gyswllt Dwyrain y Bae yn cael ei agor yn swyddogol yr wythnos hon.
“Bydd y ffordd newydd yn gwella amseroedd teithio yn sylweddol, yn lleihau tagfeydd a gwella cysylltiadau i fodurwyr a bydd yn hwb mawr i Gaerdydd a Bae Caerdydd.”