Mae'r Prif Weinidog a Llywydd UEFA Aleksander Čeferin wedi diolch i bawb oedd yn gysylltiedig â threfnu'r digwyddiad.
Yn ei lythyr at y Prif Weinidog, roedd Aleksander Čeferin yn uchel ei glod o'r trefnwyr am eu gwaith rhagorol ac am gynnal cyfres broffesiynol a rhyfeddol o gemau pêl-droed".
Roedd Mr Čeferin yn fawr ei ddiolch i Gaerdydd am ei chroeso cynnes, gan ddisgrifio'r brifddinas fel dinas fach a groesawodd filoedd lawer o gefnogwyr pêl-droed â breichiau agored mewn ysbryd o gydweithrediad, diogelwch a mwynhad pur."
Daeth Gemau Terfynol Cynghrair y Pencampwyr a'r pedwar diwrnod o ŵyl ym Mae Caerdydd â miloedd o gefnogwyr i'r brifddinas ac er gwaetha'r mesurau diogelwch llym ym mhob rhan o'r ddinas a'r pwysau ychwanegol ar rwydwaith trafnidiaeth Cymru, ychydig o darfu fu.
Mae'r Prif Weinidog wedi diolch i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, UEFA, Cyngor Caerdydd, Heddlu'r De a'r holl wasanaethau brys am eu gwaith caled a'u llwyddiant.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Fis yn ôl i heddi, cafodd digwyddiad mwya'r flwyddyn ym myd y campau ei gynnal yng Nghaerdydd. Roedd llygaid y byd ar Gymru, ac fe wnaethon ni gyflawni.
"Roedd Ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yn benllanw misoedd o waith ac o drefnu caled i sicrhau bod ein hymwelwyr yn ddiogel, yn derbyn y gofal gorau ac yn cael y croeso twymgalon Cymreig arferol.
"Hoffwn hefyd ddiolch i'r cefnogwyr am ymddwyn cystal yn ystod eu hamser yng Nghaerdydd. Gwych iawn oedd cael gweld miloedd o gefnogwyr o Ffrainc, Sbaen a'r Eidal yn cael amser da yn ein prifddinas ac rwy'n gobeithio eu bod wedi mynd adre ag atgofion melys o Gymru ac y dôn nhw yn ôl yma eto yn y dyfodol.
"Ddylai neb wneud yn fach o'r heriau oedd yn ein hwynebu fel y ddinas leiaf erioed i gynnal digwyddiad o'r fath ac mae'n destun balchder i mi weld yr hyn lwyddodd Caerdydd i'w gyflawni. Mae miliynau o bobl ledled y byd wedi sylwi ar Gymru fel lle i weithio a gwneud busnes ynddo ac i ymweld ag e. Rydyn ni'n benderfynol o wneud y mwya o'r llwyddiant mawr hwn."