Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn codi’r gofyniad i “aros gartref” yng Nghymru o yfory ymlaen, gan gyflwyno gofyniad i “aros yn lleol” yn ei le. Bydd hyn yn rhan o ddull gofalus, pwyllog a graddol o lacio’r cyfyngiadau coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O yfory (dydd Sadwrn 13 Mawrth) ymlaen, bydd pedwar o bobl o ddwy aelwyd yn gallu cwrdd yn yr awyr agored i gymdeithasu, gan gynnwys mewn gerddi. Yn ogystal, bydd cyfleusterau chwaraeon awyr agored, gan gynnwys cyrtiau pêl-fasged, cyrtiau tennis a chyrsiau golff, yn cael ailagor, a bydd ymweliadau dan do â chartrefi gofal yn ailddechrau, ar gyfer un ymwelydd dynodedig.

O ddydd Llun ymlaen, bydd pob disgybl ysgol gynradd a disgyblion sy’n astudio ar gyfer cymwysterau yn dychwelyd. Bydd gan ysgolion yr hyblygrwydd i ddod â dysgwyr blynyddoedd 10 a 12 yn eu holau a bydd mwy o ddysgwyr yn dychwelyd i golegau.

Bydd hyblygrwydd hefyd i ysgolion gynnal sesiynau ailgydio ar gyfer pob disgybl arall. Bydd pob dysgwr yn dychwelyd ar ôl gwyliau’r Pasg.

Bydd siopau trin gwallt a siopau barbwr yn ailagor ar gyfer apwyntiadau o ddydd Llun ymlaen.

O ddydd Llun 22 Mawrth ymlaen, bydd manwerthu nad yw’n hanfodol yn dechrau ailagor yn raddol, wrth i’r cyfyngiadau ar yr hyn y gellir ei werthu mewn siopau sydd ar agor ar hyn o bryd gael eu codi. Bydd canolfannau garddio yn cael agor hefyd.  Bydd pob siop, gan gynnwys yr holl wasanaethau cyswllt agos, yn cael agor o 12 Ebrill – yr un dyddiad ag yn Lloegr.

Bydd y Prif Weinidog yn dweud:

“Rydyn ni’n mynd ati i ddatgloi pob sector yn raddol – gan ddechrau gydag ysgolion. Byddwn ni’n gwneud newidiadau fesul cam bob wythnos i adfer rhyddid yn raddol. Byddwn ni’n monitro pob newid a wnawn, fel y byddwn ni’n gwybod pa effaith y mae pob newid wedi’i chael ar y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru.”

Bydd y Prif Weinidog hefyd yn cyhoeddi £150m yn ychwanegol i gefnogi busnesau y mae’r cyfyngiadau parhaus yn effeithio arnynt.