Bydd cyfleoedd i sicrhau twf a buddsoddiad ar frig yr agenda pan fydd arweinwyr y pedair gwlad yn cwrdd yng nghyfarfod cyntaf Cyngor y Gwledydd a’r Rhanbarthau yn yr Alban heddiw.
Bydd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, yn ymuno â Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig, Prif Weinidog yr Alban, Prif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon a meiri rhanbarthol Lloegr yn y digwyddiad.
Cyn cyfarfod y Cyngor, dywedodd Eluned Morgan:
“Mae’r Cyngor newydd hwn – Cyngor y Gwledydd a’r Rhanbarthau – yn enghraifft o ailosod y berthynas â Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Dim ond drwy gydweithio, a hynny yng ngwir ystyr y gair, y gallwn gyflawni dros Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae’r Cyngor yn cynnig cyfle gwirioneddol i weithio fel partneriaid ar y brif genhadaeth sef twf economaidd.
“Mae yna lawer o flaenoriaethau ry’n ni’n eu rhannu y gallwn ni gydweithio arnyn nhw, gan gynnwys helpu pobl i gael gwaith, annog arloesi a buddsoddi, a gwella seilwaith economaidd a sgiliau.
“Dyma gyfle pwysig i ailosod y berthynas a dechrau cyfnod newydd o bartneriaeth ar draws y Deyrnas Unedig.”
Ddydd Llun (14 Hydref 2024), bydd Prif Weinidog Cymru yn mynd i Uwchgynhadledd Buddsoddi Rhyngwladol gyntaf Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn Llundain, gan barhau i ganolbwyntio ar dwf a swyddi.