Mark Drakeford fydd y Prif Weinidog cyntaf i arwain gorymdaith Pride Cymru tra'i fod yn ei swydd pan fydd yr wyl yn cyrraedd strydoedd Caerdydd heddiw.
Mae'r Prif Weinidog wedi derbyn y gwahoddiad i ymuno â Pride Cymru i ddangos ei ymrwymiad fel cyfaill i bobl LGBTQ+ yng Nghymru. Bydd yn arwain yr orymdaith wrth ochr ymgyrchwyr ac arweinwyr cymunedol o bob cwr o'r wlad.
Yn nes ymlaen bydd yn annerch ar brif lwyfan Pride, gan bwysleisio cefnogaeth Llywodraeth Cymru unwaith eto i fynd i'r afael â bwlio mewn ysgolion a gwella gwasanaethau iechyd i bobl draws.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno addysg Cydberthynas a Rhywioldeb sy'n cynnwys LGBTQ+ yn y cwricwlwm newydd, ac mae yn y broses o sefydlu gwasanaeth newydd sbon ar hunaniaeth o ran rhywedd a fydd, dros amser, yn gwella mynediad at ofal iechyd hanfodol i bobl draws yng Nghymru. Mae'r Prif Weinidog hefyd wedi penodi dau Aelod Cynulliad agored hoyw – Jeremy Miles a Hannah Blythyn – i wasanaethu mewn rolau amlwg yn Llywodraeth Cymru.
Cyn gorymdaith Pride Cymru, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:
"Rwy'n falch iawn o fod yn gyfaill cefnogol i bobl LGBTQ+ o bob cwr o Gymru, a gorymdeithio gyda chi.
"Mae Pride yn fwy na dathliad, mae'n ffordd hanfodol bwysig o’n hatgoffa na ddylid cymryd unrhyw ddatblygiadau yn ganiataol. Rhaid i ni i gyd ymladd amdanyn nhw.
"Rwy'n cofio dyddiau tywyll y 1980au pan oedd llywodraeth elyniaethus a'r wasg yn dilorni ac yn bychanu dynion hoyw a lesbiaid yn rheolaidd. Heddiw, rydyn ni'n gweld tactegau llawer rhy gyfarwydd yn cael eu defnyddio yn erbyn pobl draws.
"Rhaid i ni wrthod rhagfarn o'r fath lle bynnag y bo'n bodoli yn ein cymunedau. Rhaid i ni sefyll yn gadarn yn erbyn pob ffurf ar homoffobia, biffobia a thrawsffobia.
"Gyda'n gilydd, gallwn greu Cymru lle mae pobl LGBTQ+ yn cael eu derbyn yn ddieithriad.”
Dywedodd Jane Hutt, Y Dirprwy Weinidog a Prif Chwip Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am gydraddoldeb:
“Am ddathliad gwych y penwythnos yma i Pride Cymru sy’n nodi 20 mlynedd ers ei sefydlu gyda pharêd bywiog, croesawgar a chynhwysol ynghyd â dathliadau ar strydoedd Caerdydd.
“Drwy orymdeithio drwy brifddinas ein gwlad, bydd miloedd o bobl yn dangos eu hangerdd, eu hanrhydedd a’u balchder o fod yn rhydd i fynegi eu hunaniaeth heb ofn a heb ragfarn – fel y dylai fod.
“Mae digwyddiadau fel Pride nid yn unig yn arwydd o gryfder i’n cymunedau LGBT+ ond hefyd yn gyfle i drafod er mwyn dylanwadu ar bolisi ledled Cymru ac ar lefel genedlaethol.
“Byddwn yn parhau i weithio i roi sicrwydd i’n cymunedau ni oll fod cydraddoldeb wrth wraidd yr hyn ry’n ni ei wneud, y bydd amrywiaeth bob amser yn cael ei ddathlu ac nad oes lle i wahaniaethu yng Nghymru. Mwynhewch, bawb!”