Neidio i'r prif gynnwy

“Fel arweinydd gwlad a bleidleisiodd i ymadael â’r UE, dw i’n gwbl ymroddedig i ddiogelu dyfodol Cymru. Byddwn ni’n ymateb i’r her ac yn gwneud popeth i gyflawni’r canlyniad gorau posibl i Gymru.”

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones:

“Mae heddiw yn nodi diwedd misoedd o ddyfalu a dechrau cyfnod allweddol o negodiadau a fydd yn siapio ein perthynas ag Ewrop a’r byd yn ehangach yn y dyfodol.  

“Rydyn ni wedi ymrwymo o hyd i’r blaenoriaethau sydd wedi’u hamlinellu yn ein papur gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru, sy’n rhoi mynediad llawn a dirwystr i’r Farchnad Sengl uwchlaw pob dim.  

“Mae ein papur gwyn yn cyflwyno safbwynt negodi synhwyrol ar gyfer y DU gyfan. Yn wir, mae dull Llywodraeth y DU eisoes wedi’i ddylanwadu ganddo mewn meysydd pwysig, sy’n cynnwys cadw mynediad llawn i’r Farchnad Sengl, cynnal hawliau cyflogaeth presennol a phwysigrwydd y trefniadau pontio.

“Mae’r prosesau ar gyfer cyrraedd y pwynt hwn heddiw wedi bod yn destun rhwystredigaeth yn aml, ond rhaid inni ganolbwyntio nawr ar y gwaith sydd gennym i’w wneud. Rydyn ni’n barod i weithio mewn modd adeiladol gyda Llywodraeth y DU a sefyll ochr yn ochr â hi i daro bargen sy’n diogelu busnesau Cymru, ein heconomi ac sy’n sicrhau bod Cymru yn ffyniannus yn y dyfodol.  

“Wrth i’r negodiadau fynd rhagddynt, os na fyddwn ni’n credu bod ein blaenoriaethau yn cael eu hyrwyddo neu os na fyddwn ni’n meddwl bod lefel ein cynrychiolaeth yn dderbyniol, fe fyddwn ni yn codi llais. Fyddwn ni ddim yn caniatáu i Gymru gael ei hanwybyddu – byddwn ni’n llafar ac fe fydd ein llais yn cael ei glywed.

“Fel arweinydd gwlad a bleidleisiodd i ymadael â’r UE, dw i’n gwbl ymroddedig i ddiogelu dyfodol Cymru. Byddwn ni’n ymateb i’r her ac yn gwneud popeth yn ein gallu i gyflawni’r canlyniad gorau posibl i Gymru.”