Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, wedi rhybuddio am y bygythiadau iechyd sy'n wynebu Cymru o ganlyniad i gynnydd mewn ymgyrchoedd gwrth-frechu a'r gorddefnydd o wrthfiotigau.
Yn ei adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd heddiw (7 Mai) mae'r Prif Swyddog Meddygol yn tynnu sylw at bwysigrwydd brechlynnau a'r risgiau i'r rheiny sydd heb eu brechu yn erbyn afiechydon y gellir eu hatal.
Dywedodd Dr Frank Atherton,
"Mae GIG Cymru yn cynnig amryw o raglenni imiwneiddio i bob oedran, o fabanod i'r henoed, i'w hamddiffyn rhag ystod eang o afiechydon heintus. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dewis cael eu brechu, ond mae lleiafrif bychan yn parhau i fod heb eu hargyhoeddi ynglŷn â diogelwch a manteision y brechlynnau.
"Brechu yw'r dull mwyaf effeithiol o bell ffordd ar gyfer amddiffyn yn erbyn afiechydon fel y frech goch. Mae angen i ni weithio gyda chlinigwyr ac arbenigwyr eraill i sicrhau bod rhieni yn cael yr wybodaeth lawn am fuddion brechu, i sicrhau bod cynifer o blant â phosibl yn derbyn y brechlyn, a’n bod yn cyflawni ein nod o gael gwared ar afiechydon y gellir eu hatal.
"Hefyd, mae angen i bobl hŷn ddeall y buddion iechyd iddyn nhw o gael brechlyn yn erbyn y ffliw, afiechyd niwmococol a'r eryr."
Yn ogystal â’r bygythiadau o ganlyniad i afiechydon y gellir eu hosgoi, mynegodd adroddiad blynyddol y Prif Swyddog Meddygol bryderon ynghylch y bygythiad cynyddol o ganlyniad i ymwrthedd i wrthfiotigau. Nod y cynllun gweithredu cenedlaethol Ymwrthedd Gwrthficrobaidd yw lleihau ein defnydd o wrthfiotigau cymaint â 15% erbyn 2025.
Yn ei adroddiad, mae Dr Atherton yn trafod pwysigrwydd ymchwil data iechyd yn ogystal ag adeiladu ar yr egwyddorion Gofal Iechyd Darbodus a lansiwyd yn 2014, gan ddefnyddio dull Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth.
Dywedodd:
“Heb ymchwil, ni fyddai unrhyw driniaethau fel IVF na dyfeisiau fel rheolyddion calon - ac yn bendant ni fyddem yn gwybod bod smygu'n achosi canser.
"Pwrpas ymchwil iechyd a gofal yw darganfod gwybodaeth newydd a all arwain at newidiadau mewn triniaethau, polisïau neu ofal.
Mae'n bwysig hefyd ein bod yn gwneud y defnydd gorau posibl o'r adnoddau sydd ar gael i ni, a dyma pam rwy'n cefnogi dull Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth yng Nghymru.
"Mae llawer iawn o ddiddordeb yn y gwaith hwn, yn ogystal ag yn yr ymchwil yr ydym yn ei wneud yng Nghymru, a dylem fod yn falch bod Cymru yn cael ei hystyried yn gynyddol fel gwlad lle croesewir arloesi a ffyrdd newydd o weithio.