Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prif Swyddog Meddygol newydd Cymru, Dr Frank Atherton, yn dechrau ar ei waith heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel Prif Swyddog Meddygol Cymru, bydd Dr Atherton yn gyfrifol am ddarparu cyngor proffesiynol annibynnol i'r Prif Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Cabinet ynglŷn â materion yn ymwneud ag iechyd ac iechyd y cyhoedd. Bydd hefyd yn gweithio gyda  sefydliadau trwy Gymru i leihau anghydraddoldeb ym maes iechyd, ac i wella iechyd.

Bydd hefyd, yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru, yn arwain y proffesiwn meddygol yng Nghymru er mwyn gwella ansawdd gofal iechyd a chanlyniadau i gleifion.

Daw Dr Atherton yn wreiddiol o Swydd Gaerhirfryn ac mae wedi bod yn gweithio fel Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Iechyd yn yr Adran Iechyd a Lles yn Nova Scotia, Canada. Bu hefyd yn Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd yng Ngogledd Swydd Gaerhirfryn ac yn Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd y DU.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething AC:

“Mae gan Dr Atherton brofiad helaeth o weithio ar lefel uchel ym maes iechyd y cyhoedd yn y Deyrnas Unedig a thramor ac rwy'n edrych ymlaen at gydweithio ag ef. Rwy’n falch iawn ei fod wedi ymuno â ni wrth inni weithio i wella iechyd a llesiant a hoffwn estyn croeso cynnes iddo i Gymru.”

Dywedodd Dr Atherton:

“Mae bod yn Brif Swyddog Meddygol yng Nghymru yn rhoi cyfle gwych imi weithio gyda phobl a sefydliadau drwy’r wlad i greu’r amodau a fydd y galluogi pobl i fyw bywydau iachach, gan adeiladu ar seiliau’r Ddeddf Teithio Llesol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Rwy’n edrych ymlaen at fynd ati i roi’r polisïau blaengar ac arloesol hyn ar waith.”

Mae Dr Atherton yn cymryd lle Dr Ruth Hussey, a ymddeolodd yn gynharach eleni.