Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru yn annog y cyhoedd i ddewis y gwasanaeth iechyd priodol ar gyfer eu hanghenion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod cyfnod prysur y gaeaf, mae’r pryderon yn parhau bod pobl yn dal i alw 999 neu ymweld ag  Adrannau Brys ar gyfer mân anhwylderau, pan fyddai wedi bod yn fwy priodol mynd i geisio gofal rhywle arall.

Mae ymgyrch Dewis Doeth Llywodraeth Cymru yn annog pobl i feddwl yn gyntaf cyn dewis y gwasanaeth iechyd mwyaf priodol ar gyfer eu salwch neu eu hanaf. Mae hynny’n cynnwys gofyn am gyngor gan y fferyllydd lleol os ydyn nhw’n poeni am broblemau iechyd cyffredin megis dolur rhydd, annwyd, poen yn y stumog, neu gur pen.

Dywedodd Andrew Evans, y Prif Swyddog Fferyllol:

“Hoffwn annog unrhyw un nad yw’n siŵr beth yw’r ffordd orau o gael triniaeth am ei gyflwr iechyd i fynd i weld ei fferyllydd lleol i ofyn am gyngor.

“Mae fferyllwyr yn arbenigo mewn meddyginiaethau a’u defnydd, ac maen nhw’n gallu rhoi cyngor ar amrywiaeth o gyflyrau heb fod angen ichi gael apwyntiad. Byddan nhw’n eich cynghori i fynd i weld eich meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall os byddan nhw’n teimlo bod angen hynny.”

Dywedodd Dr Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol:

“Drwy ddewis yn ddoeth byddwch yn sicrhau bod pawb yn cael y driniaeth y mae ei hangen o fewn yr amser byrraf posibl, drwy leihau’r pwysau ar wasanaethau hanfodol y GIG.

“Pwrpas y gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yw trin y rheini sy’n dioddef salwch neu anaf difrifol, megis tagu, poen yn y frest, llewygu, colli gwaed mewn modd nad yw’n bosibl ei atal neu strôc bosibl.

“Hoffwn annog pawb i edrych ar ein gwefan ac ap Dewis Doeth, sy’n egluro’r hyn sy’n cael ei gynnig gan bob gwasanaeth GIG. Mewn llawer o achosion, mae pobl yn mynd i unedau brys pan fyddan nhw wedi gallu cael yr un cyngor gan eu fferyllydd lleol, neu wedi gallu cael eu gweld a’u hasesu mewn uned mân anafiadau, neu gan feddyg yng ngwasanaeth y tu allan i oriau eu meddygfa leol.

“Mae’r neges yn glir. Dewiswch yn ddoeth i helpu i achub bywydau.”