Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae dal, defnyddio a storio carbon (CCUS) yn cyfeirio at ddulliau o leihau’r allyriadau carbon deuocsid (CO2) a ollyngir i’r atmosffer trwy ddal CO2 ac yna naill ai ei ddefnyddio mewn proses ddiwydiannol arall, neu ei storio'n barhaol mewn ffurfiannau daearegol diogel. Mae'n amlwg y bydd gan CCUS ryw ran i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, ond nid yw maint y rôl honno'n glir eto. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ystyried agweddau ar CCUS yng Nghymru ac yn cyflwyno'r polisi a ffefrir gan Lywodraeth Cymru. Darperir cwestiynau i'w hateb ichi allu ymateb i'r ymgynghoriad ar ddiwedd y ddogfen hon.

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn nodi’r polisi a ffefrir gennym ar ddal, defnyddio a storio carbon, fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i argyfyngau'r hinsawdd a natur. Mae'r argyfyngau hyn yn golygu bod angen datgarboneiddio ein diwydiannau a'n cyflenwad ynni a hynny’n gyflym, yn llwyr ac mewn ffordd gynaliadwy. Yr un pryd, rhaid cefnogi swyddi a gweithgarwch economaidd, osgoi trosglwyddo problemau i genedlaethau'r dyfodol a sicrhau pontio teg i'r bobl a'r busnesau y bydd y newid yn effeithio arnynt.

Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd (CCC), sy'n cynghori Llywodraethau'r DU a Chymru ar dargedau allyriadau, wedi disgrifio dal, defnyddio a storio carbon (CCUS) fel 'anghenraid, nid opsiwn' wrth newid i sero net. Ond mae'r CCC yn cydnabod hefyd na fydd Llywodraeth Cymru yn gallu cyrraedd ei tharged heb yr ymrwymiadau polisi ac ariannol cywir gan San Steffan gan mai yn nwylo Lywodraeth y DU y mae llawer o'r pwerau a'r cymhellion sy'n gysylltiedig â CCUS. Byddwn yn parhau i drafod ei pholisïau CCUS â Llywodraeth y DU wrth iddi eu datblygu, a hefyd â diwydiant a chynhyrchwyr ynni, er mwyn sicrhau eu bod yn llwyr ystyried anghenion Cymru. Mae gwneud datganiad polisi clir ar CCUS yn rhan o'r broses hon.

Rydym nawr yn ceisio barn diwydiant, y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill ar y polisi a ffefrir gennym sy'n cefnogi CCUS pan:

  • mae'n gwneud cyfraniad clir er lles datgarboneiddio a'r economi, 
  • nad oes dewisiadau rhesymol eraill i leihau allyriadau, ac
  • nad yw ei ddefnyddio yn estyn yn ddiangen y defnydd o danwydd ffosil.

Gan ddibynnu ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, caiff y polisi ei gyhoeddi yn gyntaf fel datganiad ysgrifenedig, ac yna cyhoeddir canllawiau manwl ar gyfer penderfynwyr a datblygwyr.

Cyd-destun datblygu'r polisi

Er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd mae'n rhaid i ni leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr yn gyflym ac yn gynaliadwy. Yn dilyn cyngor y CCC ar 17 Mawrth 2021, gwnaeth y Senedd reoliadau, y cyfeirir atynt gyda'i gilydd fel 'Rheoliadau Newid Hinsawdd (Cymru) 2021'. [Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Diwygio Targed Allyriadau 2050) 2021; Rheoliadau Newid Hinsawdd (Targedau Allyriadau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2021; Rheoliadau Newid Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) (Diwygio) 2021; a Rheoliadau Newid Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Cymru Net) (Cymru) 2021].

Mae'r rheoliadau hyn yn gosod targedau heriol ar gyfer lleihau allyriadau 63% erbyn 2030, 89% erbyn 2040 ac o leiaf 100% erbyn 2050, yn seiliedig ar lefelau 1990. Mae diwydiant, gan gynnwys cynhyrchu pŵer, yn cyfrif am fwy na hanner allyriadau presennol Cymru, felly mae datgarboneiddio diwydiant yn hanfodol i gadw at y cyllidebau carbon hyn, a rhaid iddo ddigwydd yn gyflym. 

Cyn bwysiced â hynny, rhaid osgoi "allforio" allyriadau trwy yrru diwydiannau dramor, gan y byddai hynny'n effeithio ar ein gallu i adeiladu economi wyrddach yng Nghymru a gallai sbarduno diwydiannau i symud i wledydd sydd â safonau amgylcheddol is. Mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o leihau allyriadau ar frys ond gan gadw diwydiannau cynaliadwy yng Nghymru. 

Bydd datblygiad CCUS yng Nghymru yn cael ei sbarduno i raddau helaeth gan anghenion diwydiannau a'u penderfyniadau eu hunain ynghylch y llwybr gorau tuag at ddatgarboneiddio. Mae diwydiannau a chynhyrchwyr ynni wedi bod yn glir, bydd CCUS yn rhan o'u strategaeth gyffredinol ar gyfer datgarboneiddio'r economi i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, hynny ynghyd â defnyddio ynni’n fwy effeithlon a newid tanwydd. 

Ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o’r cynigion graddfa fawr ar gyfer CCUS yn golygu storio carbon dan ddaear yn hytrach na'i ddefnyddio. Felly, mae'r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar Ddal a Storio Carbon.

Dal, Defnyddio a Storio Carbon (CCUS)

Mae CCUS yn cyfeirio at ddulliau o leihau allyriadau carbon deuocsid (CO2) i’r atmosffer trwy ddal y CO2 a gynhyrchir gan weithfeydd diwydiannol ac wrth gynhyrchu pŵer cyn iddynt ei ollwng i'r atmosffer, ac yna naill ai defnyddio'r CO2 mewn proses ddiwydiannol arall, neu storio'r CO2 yn barhaol mewn ffurfiannau daearegol diogel. 

Os delir CO2 ar gyfer ei storio'n barhaol, rhaid ei storio mewn ffurfiannau daearegol yn ddwfn o dan y ddaear. Mewn astudiaeth a gynhaliwyd ar gyfer Llywodraeth y DU gan arbenigwyr perthnasol o fyd diwydiant ac academia, eu casgliad oedd y disgwylir i fwy na 99.9% o’r CO2 a gaiff ei chwistrellu i ffurfiannau daearegol aros yn ddiogel yno ar ôl 100 mlynedd.

Prif fantais bosibl CCUS yw bod gan y DU asedau storio daearegol sylweddol, gyda digon o gapasiti posib yn Sgafell Gyfandirol y DU (UKCS) i storio hyd at 78 biliwn tunnell o garbon, un o'r storfeydd mwyaf o CO₂ yn Ewrop. Mae gan Sgafell Gyfandirol y DU ddigon o botensial, os gellir cael ati'n ddiogel ac yn effeithiol, i storio holl allyriadau'r DU am y dyfodol rhagweladwy.

Gallai CCUS fod yn ffordd i ddatgarboneiddio sawl rhan o'r economi gan gynnwys diwydiant, cynhyrchu pŵer, gwresogi a thrafnidiaeth. Gallai leihau allyriadau llosgi tanwydd ffosil yn sylweddol neu ein galluogi i gynhyrchu hydrogen carbon isel trwy fethan. 

Manteision posibl eraill CCUS yw y gellir ei ddefnyddio ar raddfa gymharol fawr, yn aml dros gyfnod llai o amser na dulliau eraill o ddatgarboneiddio oherwydd:

  • Lle bo hynny'n ymarferol yn dechnegol ac yn economaidd, gellir gosod offer dal ar brosesau diwydiannol sy'n bod eisoes, heb yr angen i newid hanfodion y cyfleuster presennol.
  • Er bod CCUS yn gofyn am seilwaith newydd sylweddol fel piblinellau, yn gyffredinol ni chyfyngir arno gan yr un cyfyngiadau o ran seilwaith â dulliau eraill o ddatgarboneiddio, felly mae'n cynnig opsiynau amgen lle cyfyngir ar y gallu i ddatgarboneiddio gan un math o seilwaith.
  • Mae cronfeydd petrolewm gwag yn Sgafell Gyfandirol y DU yn cynnig storfa ddaearegol diogel, ynghyd â degawdau o wybodaeth, arbenigedd a chadwyni cyflenwi trosglwyddadwy y gellir eu defnyddio i ddatblygu seilwaith CCUS. 

Fel rhan o unrhyw benderfyniad i ddal, defnyddio a storio carbon, wrth ystyried unrhyw fuddion, rhaid cofio’r pryderon hefyd. Nid yw'r broses wedi'i phrofi ar raddfa fawr ac ymarferol yn y DU eto, nid yw’r storfeydd daearegol wedi'u profi ar raddfa ddiwydiannol dros y tymor hir, a gallai mabwysiadu CCUS, o beidio â'i reoli'n briodol, gynyddu neu estyn yn ddiangen y defnydd o danwydd ffosil yn hytrach na mynd â ni oddi wrth danwydd ffosil. Er enghraifft, gallai CCUS, o beidio â’i reoli'n iawn, gymryd neu arafu’r arian a allai gael ei fuddsoddi mewn seilwaith ynni adnewyddadwy a storio ynni. 

Rydym wedi cwblhau ymchwil i hyfywedd rhwydwaith CCUS yng Nghymru a sut y gallai gyfrannu at sero net yng Nghymru. Y casgliad oedd bod CCUS yn opsiwn technegol ymarferol allai helpu Cymru i wireddu’i huchelgais i gyrraedd ei thargedau statudol i leihau allyriadau. Dangosodd yr ymchwil fod CCUS yn dechnegol anodd ac yn ddrud, a rhaid ei ddefnyddio felly ochr yn ochr â thechnolegau eraill gan gynnwys lleihau'r galw am ynni, defnyddio ynni'n effeithlon, ailgylchu a ffynonellau ynni amgen gan gynnwys trydaneiddio neu hydrogen. Lle na ellir defnyddio atebion eraill, efallai y bydd gan CCUS rôl. Efallai y bydd gan CCUS ran i'w chwarae hefyd i sicrhau sero net trwy dynnu CO2 o'r atmosffer.

Sut mae CCUS yn cael ei Reoleiddio yng Nghymru?

Mae datblygiadau CCUS yn dod o dan fframwaith deddfwriaethol eang ac yn cael eu rheoleiddio gan ystod o gyrff cyhoeddus. Y ddwy gyfundrefn reoleiddio y bydd polisi datgarboneiddio ac ynni yn debygol o gael effaith ymarferol ar benderfyniadau yw trwyddedu a chaniatâd cynllunio. 

Mae trwyddedu rhai gweithgareddau CCUS yn cael ei reoli'n bennaf gan Ddeddf Ynni 2008 (ceir rhestr yn adran 17(2) o weithgareddau CCUS). 

Ar gyfer lleoliadau ar y tir yng Nghymru, yn ogystal ag yn ei dyfroedd mewnol  (baeau ac aberoedd yn bennaf), cyfrifoldeb Gweinidogion Cymru yw trwyddedu unrhyw safleoedd posibl ar gyfer storio CO2 (Deddf Ynni 2008 adrannau 18(1), (2)(cb), (2)(d) a (4A)). 

Ar gyfer lleoliadau yn y môr  (ac eithrio rhai baeau ac aberoedd) cyfrifoldeb Awdurdod Pontio Môr y Gogledd (NSTA) (Yr Awdurdod Olew a Nwy gynt), asiantaeth o Lywodraeth y DU, yw trwyddedu mannau posibl ar gyfer storio CO2.  

Mae Deddf Ynni 2008 yn cyfeirio at yr OGA (yr Awdurdod Olew a Nwy), ond ers hynny mae wedi cael ei ailenwi'n Awdurdod Pontio Môr y Gogledd.

Yr NSTA yw awdurdod trwyddedu rhanbarth glannau Cymru, yn ogystal â rhanbarth môr Cymru (12-200 milltir) (adrannau 18(1), (2)(a) a (2)(d)). Pan fydd trwydded CCUS yn cwmpasu ardal sy'n rhannol mewn ardal a reolir yng Nghymru ac ardal a reolir yn Lloegr neu'r DU, yr awdurdod trwyddedu yw naill ai Gweinidogion Cymru neu'r NSTA (adran 18(2)(cd)). 

Mae'r NSTA eisoes wedi cyhoeddi nifer o drwyddedau ar gyfer storio CO2 mewn lleoliadau yn y môr o gwmpas y DU, ym Môr y Gogledd a Dwyrain Môr Iwerddon, a disgwylir iddo roi rhagor o drwyddedau yn y dyfodol. Nid oes trwyddedau ar gyfer storio CO2 ar y tir wedi'u rhoi yn unrhyw un o wledydd y DU hyd yn hyn.

Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i roi trwyddedau ar gyfer storfeydd CO2 parhaol mewn lleoliadau ar y tir yng Nghymru. Y polisi sy'n cael ei gynnig yw y dylai unrhyw allyriadau CO2 diwydiannol sy'n cael eu dal yng Nghymru fynd i storfeydd addas yn y môr ar y Sgafell Gyfandirol, lle mae profiad o godi petrolewm dros y blynyddoedd wedi rhoi dealltwriaeth dda i ni o'r ddaeareg. Os caiff y polisi ei fabwysiadu, caiff ei adolygu yn ôl yr angen yng ngoleuni tystiolaeth newydd a ddaw.

Mae CCUS yn cynnwys seilwaith a chyfleusterau ar y tir (gan gynnwys cyfarpar dal a phiblinellau) ac yn y môr (gan gynnwys cyfleusterau llwytho/dadlwytho, piblinellau a storfeydd). Mae Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, o ran piblinellau a storfeydd yng Nghymru, yn gymysgedd cymhleth o swyddogaethau datganoledig a swyddogaethau a gedwir yn ôl. 

Pan fydd y rhwydwaith CCUS cyfan neu rannau ohono, yng Nghymru, mae'n debygol y bydd angen caniatâd cynllunio o dan Ddeddf 1990 ar y datblygwr.  Mae Polisi Cynllunio Cymru (PPW) yn nodi polisïau cynllunio Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio tir.

Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (y Ddeddf) yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus penodedig (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) ymgymryd â datblygu cynaliadwy, sef y broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy weithredu yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, gyda'r nod o gyflawni'r nodau llesiant. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru ymhlith pethau eraill weithredu mewn modd sy'n sicrhau bod anghenion cenedlaethau heddiw'n cael eu diwallu
heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau. 

Mae'r Ddeddf yn gosod saith nod llesiant y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru geisio eu cyflawni. Bydd y polisi CCUS a gynigir yn cyfrannu'n uniongyrchol at gyflawni'r nodau llesiant canlynol: "Cymru lewyrchus" (sy'n cynnwys gweithredu ar newid hinsawdd), "Cymru gydnerth", a "Chymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang".

Mae datganiad llesiant Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026 yn nodi'r amcanion llesiant y bydd y Llywodraeth yn eu defnyddio i sicrhau ei bod yn cyfrannu cymaint ag y gall at wireddu'r nodau llesiant hyn. Bydd y polisi CCUS sy’n cael ei gynnig yn cyfrannu'n uniongyrchol at y nodau:

  • Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn.
  • Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni weithio i'r eithaf i ddatgarboneiddio.

Datgarboneiddio a rôl CCUS

Er mwyn helpu i gyflawni'r nodau llesiant hyn, dywed y datganiad ar bolisi ynni gafodd ei roi ger bron y Senedd gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pryd ym mis Tachwedd 2022 y byddai hierarchaeth ynni a charbon yn lleihau allyriadau, trwy ein helpu i ddewis y dulliau datgarboneiddio mwyaf cynaliadwy. 

Pwysleisiwyd yn y datganiad bod yn rhaid i ni symud oddi wrth danwyddau ffosil; bod osgoi creu allyriadau yn well na'u storio; y byddem yn cefnogi CCUS pan fydd dulliau datgarboneiddio eraill wedi’u diystyru ar ôl ystyriaeth deg; ac y byddai unrhyw benderfyniadau ar CCUS yn adlewyrchu’r hierarchaethau ynni a datgarboneiddio, tebyg i'r model a fabwysiadwyd yn Rhifyn 10 o Bolisi Cynllunio Cymru (PPW).

Mae'r hierarchaeth ynni yn elfen o Bolisi Cynllunio Cymru (canllawiau polisi cynllunio cenedlaethol Cymru, t93) sydd wedi ennill ei phlwyf. Mae Llywodraeth Cymru'n disgwyl i bob datblygiad newydd liniaru achosion y newid yn yr hinsawdd, yn unol â'r hierarchaeth ynni ar gyfer cynllunio, trwy leihau'r galw, defnyddio ynni'n fwy effeithlon a rhoi mwy o flaenoriaeth i ynni adnewyddadwy. 

Mae'r hierarchaeth ynni hon ar gyfer cynllunio wedi llywio ein barn ynghylch y polisi a ffefrir ar CCUS. Yn gyffredinol, o ddilyn yr hierarchaeth, bydd datblygwyr a phenderfynwyr yn deall bod osgoi cynhyrchu allyriadau yn well na dal a storio allyriadau. Er enghraifft, byddai newid tanwyddau, neu fabwysiadu technoleg a phrosesau newydd yn well na storio carbon yn y ddaear. Ond, o ystyried maint yr argyfwng hinsawdd a'r angen i leihau allyriadau i'r atmosffer yn gyflym, gallai dal a storio allyriadau yn barhaol fod yn briodol pan na fydd dulliau datgarboneiddio eraill yn ymarferol.

Ein gweledigaeth at y dyfodol

Dyma ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol diwydiant a chynhyrchu ynni yng Nghymru:

  • Mae diwydiannau cynaliadwy yn cael eu cadw yng Nghymru ac yn parhau i gynnal swyddi o ansawdd uchel ac i roi buddion eraill i'r cymunedau y maent yn gweithio ynddynt;
  • Mae diwydiant wedi lleihau'n fawr ei ddibyniaeth ar danwydd ffosil ac yn cynhyrchu llawer llai o nwyon tŷ gwydr;
  • Lle bydd tanwyddau ffosil yn dal i gael eu defnyddio ac allyriadau yn dal i gael eu cynhyrchu, bydd cymaint o'r allyriadau hynny â phosibl yn cael eu dal a'u storio'n ddiogel ac yn barhaol;
  • Mae gennym gynllun credadwy a chynaliadwy i ddiwydiant allu rhoi’r gorau’n llwyr i gynhyrchu allyriadau nwyon tŷ gwydr a dileu’r angen i ddal a storio carbon a’i ddibyniaeth ar danwyddau ffosil.

Prif egwyddorion y polisi

Er mwyn gwireddu'r weledigaeth hon, y polisi a ffefrir gan Lywodraeth Cymru yw: 

  1. Yn gyffredinol, bod Gweinidogion Cymru'n cefnogi CCUS lle byddai'n gwneud cyfraniad clir, mesuradwy a chyson at ddatgarboneiddio neu at symud oddi wrth ddefnyddio tanwydd ffosil, AC nad oes ffordd resymol arall i osgoi neu leihau'n fawr yr allyriadau CO2 a ollyngir i'r atmosffer (naill ai ar hyn o bryd, neu yn y dyfodol agos).
  2. O ran allyriadau sy’n dod o gyflenwi ynni ac o ffynonellau eraill, mae dulliau lleihau allyriadau sy'n osgoi creu allyriadau yn well na CCUS, cyn belled â bod y dulliau hynny'n ymarferol o safbwynt technegol ac economaidd.
  3. Lle cynigir CCUS, rhaid bod mantais net glir i’r hinsawdd ac nad yw'n cynyddu nac yn estyn yn ddiangen ein defnydd o danwydd ffosil na'n dibyniaeth ar danwydd ffosil. (Mae mantais net o ran yr hinsawdd yma yn golygu gostyngiad cyffredinol clir yn yr allyriadau a ollyngir i'r atmosffer o ganlyniad i ddefnyddio CCUS, gan gyfrif unrhyw gynnydd neu ostyngiad yn yr allyriadau mewn mannau eraill sy'n deillio'n uniongyrchol o'r newid. Neu cadw diwydiant yng Nghymru, yn hytrach na'i allforio i wledydd sydd â safonau amgylcheddol is).
  4. Cyfrifoldeb y datblygwr yw dangos mai CCUS yw'r dewis cywir, ei fod yn cyfrannu at ddatgarboneiddio tymor hir, ei fod yn sicrhau mantais net i’r hinsawdd, ac yn adeiladu economi gryfach, wyrddach.

Mae dal a storio carbon yn gallu arwain at ddefnyddio mwy o danwydd ffosil oherwydd yr ynni sydd ei angen ar y broses, ond dylai arwain er hynny at leihad sylweddol yn yr allyriadau i'r atmosffer. Os dilynir yr egwyddorion uchod yn llwyddiannus, yna rydym yn rhagweld y bydd defnyddio CCUS a'i dargedu'n briodol yn cyflymu'r  gostyngiad mewn allyriadau yn y cyfnod pan symudir oddi wrth danwydd ffosil, heb arafu'r symudiad hwnnw oddi wrth danwydd ffosil. Dyma brif nod defnyddio CCUS yn llwyddiannus.

Rhoi'r polisi ar waith

Gan ddibynnu ar ganlyniadau'r ymgynghoriad hwn, ac unrhyw asesiadau statudol neu asesiadau eraill angenrheidiol, cynigir y canlynol:

  • Bydd y polisi a ffefrir gennym yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog ger bron y Senedd fydd yn disgrifio amcan ein polisi o ran CCUS.
  • Bydd amcan y polisi yn cael ei ymgorffori yn rhifynnau Polisi Cynllunio Cymru a Chyllidebau Carbon Sero Net Cymru yn y dyfodol.
  • Bydd canllawiau manwl ar sut i roi'r polisi ar waith yn cael eu llunio ar gyfer swyddogion cynllunio a phenderfynwyr eraill. Cydnabyddir bod y polisi a ffefrir yn rhestru amcanion strategol yn hytrach na rhoi cyngor manwl i benderfynwyr a datblygwyr.  Felly, bydd canllawiau'n cael eu paratoi i ddisgrifio sut y gallai'r polisi weithio'n ymarferol a pha fath o dystiolaeth fydd ei hangen.

Consultation questions

Cwestiwn 1: A ydych yn cytuno bod osgoi cynhyrchu allyriadau yn well na dal a storio allyriadau? Os nad ydych, rhowch eich rhesymau.

Cwestiwn 2: A ydych yn cytuno, lle cynigir CCUS, bod yn rhaid i ddatblygwyr ddangos tystiolaeth na fydd ei ddefnyddio’n cynyddu nac yn estyn yn ddiangen y defnydd o danwyddau ffosil na'n dibyniaeth ar danwyddau ffosil? Os nad ydych, rhowch eich rhesymau.

Cwestiwn 3: A ydych yn cytuno y dylid parhau i ffafrio storfeydd yn Sgafell Gyfandirol y DU (UKCS) yn hytrach nac ar y tir yng Nghymru? (Y dewis a ffefrir gennym yw storio allyriadau mewn lleoliadau yn y môr a reolir gan y DU). Os nad ydych, rhowch eich rhesymau.

Cwestiwn 4: A ydych yn cytuno'n gyffredinol â'r polisi a gynigir yn y ddogfen hon? Os nad ydych, nodwch beth rydych chi'n anghytuno ag e' a'ch rhesymau dros anghytuno.

Cwestiwn 5: Pa fath o wybodaeth neu arweiniad ychwanegol fyddai'n help i roi'r polisi hwn ar waith, i ddatblygwyr, buddsoddwr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau?

Cwestiwn 6: Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai’r 'Dal, Defnyddio a Storio Carbon' yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, a peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Pa effeithiau rydych chi’n credu y byddai?  Sut y gellid gynyddu effeithiau positif a lliniaru effeithiau negyddol?

Cwestiwn 7: Eglurwch hefyd os gwelwch yn dda sut rydych chi’n credu y gall y polisi arfaethedig gael ei lunio neu ei addasu er mwyn cael effeithiau positif ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a peidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg

Cwestiwn 8: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydyn ni wedi mynd i’r afael â nhw, defnyddiwch y lle hwn i wneud hynny:

Cwestiwn 9: Ydych chi'n byw yng Nghymru?

Cwestiwn 10: Oes gennych chi ddiddordeb busnes yng Nghymru?

Cwestiwn 11: Rhowch ran gyntaf côd post eich cartref e.e. CF10

Sut i ymateb

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 24 Chwefror 2025, a gallwch ymateb yn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

  • drwy e-bost: dylech gwblhau'r ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad a’i hanfon i: YmatebionYnni-EnergyResponses@gov.wales. Dylech gynnwys "Polisi CCUS drafft" yn llinell pwnc eich e-bost.
  • drwy’r post: dylech gwblhau'r ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad a’i hanfon i:

Yr Is-adran Ynni
Llywodraeth Cymru
Cathays Park
Caerdydd
CF10 3NQ

Rheoliadau Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad. 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)) 

Bydd unrhyw ymateb y byddwch yn ei anfon atom yn cael ei ddarllen yn ei gyfanrwydd gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau pellach. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud rhagor o waith dadansoddi ar ymatebion i ymgyngoriadau, mae'n bosibl y bydd trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwnnw. Dim ond o dan gontract y gwneir unrhyw waith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn cynnwys gofynion llym ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi'i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw neu'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech fod yn ymwybodol hefyd o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gallai Llywodraeth Cymru fod o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ddata eraill a sydd gan Lywodraeth Cymru fel arall yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl:

  • i gael gwybod am y data personol sy’n cael eu cadw amdanoch chi, a'u gweld
  • i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hwnnw
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu'r data (mewn rhai amgylchiadau)
  • i ofyn i’ch data gael eu ‘dileu’ (o dan rai amgylchiadau)
  • i gludadwyedd data (mewn rhai amgylchiadau)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.


I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’r ffordd mae'r wybodaeth yn cael ei defnyddio, neu os ydych chi am arfer eich hawliau o dan reoliad GDPR y DU, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
e-bost: dataprotectionofficer@llyw.wales

Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Cheshire 
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: https://ico.org.uk/

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Ceir fersiynau print bras, Braille ac iaith amgen o’r ddogfen hon o ofyn amdanynt.

Manylion cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth:

Is-adran Ynni
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: EnergyPolicyMailbox@gov.wales

Mae'r ddogfen hon ar gael yn Saesneg hefyd.