Neidio i'r prif gynnwy

Ein nod yw datblygu gweledigaeth strategol integredig ar gyfer darparu addysg gyrfaoedd, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad yn y sector amaethyddol yng Nghymru.

Cefndir

Cafodd deddfwriaeth i greu'r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth i Gymru ei chynnwys yn Neddf y Sector Amaethyddol (Cymru) 2014. Sefydlwyd y Panel ym mis Ebrill drwy gyfrwng Gorchymyn Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (Sefydlu) 2016. Mae'r Panel wedi cynnal tri chyfarfod - y cyntaf ar 24ain Mehefin, yr ail ar 8fed Medi, a'r trydydd ar 24ain Hydref.

Mae adran 14(1) o'r Gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r Panel sefydlu is-bwyllgor parhaol o'r enw'r "Is-bwyllgor Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant". Mae adran 14(3) yn pennu y bydd un aelod yn cael ei ddewis o blith aelodaeth Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru ac un o Lantra Cymru. Bydd yr aelodau eraill yn Aelodau Annibynnol o'r Panel a benodir gan Weinidogion ac o bosibl pobl eraill y gall y Panel eu penodi maes o law.

Mae Lantra Wales wedi enwebu Kevin Thomas, Cyfarwyddwr, ac aelodau CFfI Cymru yw Sian Thomas a Nia Lloyd.

Caiff y Panel benodi aelodau eraill i ddarparu'r arbenigedd angenrheidiol i symud y gwaith hwn yn ei flaen. Felly, efallai yr hoffai Unite ac NFU/FUW awgrymu pobl o'u sefydliadau nhw i wasanaethu. Hefyd, gall fod eraill y mae'r Panel yn teimlo y byddent yn aelodau addas.

Diben y Pwyllgor Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant

Datblygu gweledigaeth strategol integredig ar gyfer darparu addysg gyrfaoedd, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad yn y sector amaethyddol yng Nghymru.

Bydd y Pwyllgor yn sbarduno cydweithio effeithlon ac effeithiol rhwng sefydliadau sy'n rhoi cefnogaeth a hyfforddiant gyrfaoedd yn y sector. Bydd yn rhoi cyngor i'r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth ar ddatblygu sgiliau, hyfforddiant a datblygu gyrfa ac i Weinidogion Cymru yn ôl y gofyn.

Cyd-destun

Yn rhoi ffocws ar:

  • ddatblygu sgiliau a hyfforddiant fel buddsoddiad allweddol yn y diwydiant yn hytrach na chost
  • anghenion unigolion sy'n gweithio yn y sector gan gynnwys sgiliau rheoli, sgiliau craidd a datblygu gyrfa
  • anghenion y rheini sy'n dechrau gyrfa newydd yn y diwydiant
  • asesu'r bylchau yn y ddarpariaeth a ffyrdd o fynd i'r afael â’r rheini
  • hwyluso trafodaeth ynghylch datblygu sgiliau'r sector amaethyddol yn y dyfodol rhwng amrywiaeth o sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau a rhanddeiliaid eraill
  • herio'r ddarpariaeth bresennol yn ôl yr angen.

Rhaglen waith

Bydd y Pwyllgor a'r Panel yn cytuno arni er mwyn hwyluso datblygiad:

  • safonau ansawdd cytûn wrth gyflenwi addysg, gwybodaeth ac arweiniad ar gyfer y sector − yn benodol mewn perthynas â datblygiad proffesiynol a sicrwydd ansawdd
  • map o’r ddarpariaeth bresennol i nodi unrhyw fylchau neu ddyblygu.

Nodau a chyfrifoldebau

Bydd yr Is-bwyllgor yn gyfrifol am:

  • ddatblygu a chyflwyno rhaglen waith y cytunir arno
  • rhoi cyngor i'r Panel ar ddatblygu a monitro dull strategol o ddatblygu sgiliau, hyfforddiant a gyrfaoedd  
  • helpu i lywio ymchwil ar gyfer y dyfodol ac arwain ar ddatblygu argymhellion ar gyfer gwaith pellach.

Atebolrwydd

Ni all y Pwyllgor fod yn llwyddiannus ond os bydd sefydliadau ac unigolion yn ymrwymo i agenda gytûn ar gyfer ei waith. Bydd gan aelodau rôl gynrychiadol a bydd disgwyl iddynt sicrhau bod llif da o wybodaeth, sylwadau a datblygiadau yn cyrraedd y Pwyllgor, ac yna’r Panel drwy’r grŵp ehangach.

Adolygu

Penodir am gyfnod o 5 blynedd. Ar ôl dwy flynedd bydd y grŵp yn adolygu perthnasedd a gwerth ei waith a'r cylch gorchwyl. Bydd hyn yn cynnwys adolygiad o'r aelodaeth.

Dulliau gweithio

  • bydd y Pwyllgor yn cyflenwi rhaglen waith y cytunir arni. Bydd y rhaglen waith ddrafft yn cael ei thrafod gan y Panel a'r Is-bwyllgor cyn ei mabwysiadu.
  • gellir cysylltu ag aelodau rhwng cyfarfodydd os oes angen cyngor penodol
  • gellir gwahodd pobl nad ydynt yn aelodau i gymryd rhan mewn cyfarfodydd penodol o’r Fforwm os bydd hynny’n briodol ar gyfer y pynciau sy'n cael eu trafod.
  • dylai'r Is-bwyllgor roi gwybod i'r Panel am unrhyw anghenion ymchwil ar gyfer y dyfodol gan y bydd angen i'r Panel gael caniatâd ymlaen llaw ar gyfer unrhyw gostau a achosir.

Bydd o leiaf dri chyfarfod y flwyddyn yn cael eu cynnal mewn lleoliadau y penderfynir arnynt gan y Cadeirydd gan ymgynghori â'r Is-bwyllgor.