Beth rydym yn ei wneud
Mae’r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru yn hyrwyddo gyrfaoedd ym maes amaethyddiaeth ac yn cynghori ar gyflogau amaethyddol.
Cynnwys
Ynghylch y panel
Roedd Gorchymyn Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (Sefydlu) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i'r panel greu Is-bwyllgor Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant i gynghori'r panel ar ddatblygu sgiliau, cyfleoedd hyfforddiant a chyfleoedd datblygu gyrfa yn y sector amaethyddol.
Ein cylch gwaith
Mae gan y panel gylch gwaith clir:
- drafftio gorchmynion cyflogau amaethyddol i bennu cyfraddau cyflog a lwfansau lleiaf a theg a lwfansau i weithwyr amaethyddol, ymgynghori ar orchmynion o'r fath a chyflwyno fersiynau drafft ohonynt i Weinidogion Cymru
- hybu gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth
- rhoi cyngor i Weinidogion yn ôl yr angen
Y panel
Mae'r panel yn cynnwys aelodau sy'n cynrychioli cyflogwyr a gweithwyr, a thri aelod annibynnol a benodwyd gan Weinidogion Cymru. Mae'r Panel yn cynnwys 7 aelod:
- cadeirydd annibynnol
- 2 aelod annibynnol
- 4 cynrychiolydd undeb
- 2 o Unite
- 1 o Undeb Amaethwyr Cymru
- 1 o Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru
Yr aelodau
- Dr Lionel Walford (Cadeirydd – Annibynnol)
- Peter Rees (Annibynnol)
- Steve Hughson (Annibynnol)
- Darren Williams (Undeb Amaethwyr Cymru)
- Will Prichard (Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr)
- Ivan Monkton (Unite)
- Neil Beveridge (Unite)