Y Panel Adolygu Ffyrdd cyfarfod: 21 Rhagfyr 2021
Chrynodeb o drafodaeth y cyfarfod.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Cadeirydd: Lynn Sloman (LS)
Llywodraeth Cymru: Rob Kent-Smith (RKS), Matt Jones (MJ),
Trafnidiaeth Cymru: Natasha McCarthy (NMC),
Cymorth Technegol (Arcadis): Janice Hughes (JHU), Matt Fry (MF).
Panelwyr:
- Julie Hunt (JH)
- Glenn Lyons (GL)
- Geoff Ogden (GO)
- John Parkin (JP)
- Helen Pye (HP)
- Andrew Potter (AP)
- Eurgain Powell (EP)
Ymddiheuriadau:
Llywodraeth Cymru: Lea Beckerleg (LB), Scott Walters (SW)
Cyflwyniadau a’r diweddaraf gan yr Ysgrifenyddiaeth
Derbyniodd y Panel gofnodion y cyfarfod diwethaf a chafwyd adroddiad gan yr ysgrifenyddiaeth ar ei gweithgareddau diweddar.
Trafododd y Panel yr ohebiaeth sydd wedi dod i law ynghylch argymhellion yr adolygiad cyflym a phenderfyniad Llywodraeth Cymru wedi hynny ynghylch y Gwelliannau i’r Ffordd Fynediad i Lanbedr a’r Ffordd Osgoi.
Adolygu cynlluniau unigol
Cytunodd y Panel ar sut y dylid adolygu cynlluniau unigol, hynny yn sgil cyhoeddi’r Adroddiad Cychwynnol sy’n rhestru’r hol gynlluniau fydd yn cael eu hadolygu.
Rhannodd y panelwyr eu barn yn dilyn adolygu dogfennau cynlluniau a chymhwyso’r meini prawf. Caiff y pwyntiau a drafodwyd yn y cyfarfod eu hystyried er mwyn penderfynu ar ffurf derfynol yr adolygiad.
Ai ffordd yw’r ateb priodol?
Trafodaeth gan y Panel o dan arweiniad y Cadeirydd i ateb y cwestiwn yn y Cylch Gorchwyl ar gyfer Adolygu Ffyrdd ynghylch o dan ba amgylchiadau y byddai’n briodol gwario arian Llywodraeth Cymru ar ffyrdd.
Y cyfarfod nesaf
Cynhelir y cyfarfod nesaf ddydd Mercher 12 Ionawr 2022.