Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Cadeirydd: Lynn Sloman (LS)

Llywodraeth Cymru: Rob Kent-Smith (RKS), Matt Jones (MJ), Lea Beckerleg (LB), 

Trafnidiaeth Cymru: Natasha McCarthy (NMC),

Cymorth Technegol (Arcadis): Janice Hughes (JHU), Matt Fry (MF).

Panelwyr:

  • Julie Hunt (JH)
  • Glenn Lyons (GL)
  • Geoff Ogden (GO)
  • John Parkin (JP)
  • Helen Pye (HP)
  • Andrew Potter (AP)

Ymddiheuriadau:

  • Panelwyr: Eurgain Powell (EP)
  • Llywodraeth Cymru: Scott Walters (SW)

Cyflwyniadau a diweddariad gan yr ysgrifenyddiaeth

Rhoddodd yr ysgrifenyddiaeth yr wybodaeth ddiweddaraf am eu gweithgareddau.

Nododd y panel benderfyniad gan Lywodraeth Cymru ar gynllun arfaethedig Llanbedr yn sgil adolygiad cyflym. Mae datganiad ysgrifenedig gan y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd 01/11/2021 yn cadarnhau derbyn argymhellion y Cadeirydd ac na fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi unrhyw waith pellach ar gynllun presennol Ffordd Fynediad Llanbedr.

Datblygu'r meini prawf ar gyfer asesu adolygu ffyrdd

Cafwyd trafodaeth ar y trydydd drafft o feini prawf asesu'r adolygiad ffyrdd sydd wedi'u diweddaru yn dilyn ystyried yr holl sylwadau a gasglwyd yng Nghyfarfod Panel Adolygu Ffyrdd Rhif 3.

Dyrannu prosiectau, rhaglen a ffyrdd o weithio

Rhannodd yr ysgrifenyddiaeth ddyraniadau arfaethedig y rhaglen a'r tîm cymorth ar gyfer adolygu cynlluniau a gadarnhawyd o fewn cwmpas yr adolygiad.

Adolygiad o gynlluniau unigol

Cafwyd trafodaeth ar ddau gynllun unigol. Rhannodd panelwyr ystyriaethau yn dilyn adolygu dogfennau'r cynllun a chymhwyso meini prawf. Bydd hyn yn llywio crynodebau o ystyriaethau allweddol i weinidogion.

Cyfarfod nesaf

Bydd y cyfarfod nesaf ddydd Iau 2 Rhagfyr.