Neidio i'r prif gynnwy

Gydag 86 o bobl ifanc o Gymru yn gymwys i fynd drwodd i’r rownd derfynol mae Cymru, fel rhanbarth, ar y brig gyda nifer uchaf y cystadleuwyr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y nifer uchaf erioed o gystadleuwyr o Gymru yn teithio i ganolfan yr NEC yn Birmingham wythnos yma (17-19 Tachwedd) i gystadlu yn erbyn prentisiaid, gweithwyr a dysgwyr mwyaf dawnus y Deyrnas Unedig yn rownd derfynol The WorldSkills UK.

Mae cystadlaethau WorldSkills UK yn ysbrydoli pobl ifanc ac oedolion i fod yn uchelgeisiol wrth iddyn nhw ddatblygu eu sgiliau i’r lefel uchaf. Rowndiau terfynol y Deyrnas Unedig yw uchafbwynt The Skills Show gyda dros 650 yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn dros 40 o gystadlaethau mewn sgiliau sy’n amrywio o blymio i goginio a chynllunio gwefannau a gosod blodau.

Peter Rushforth, o Goed-llai yn yr Wyddgrug, yw un o’r 86 o bobl ifanc o Gymru sy’n cystadlu yn y sioe yr wythnos yma ac yn ymgeisydd balch iawn yn cynrychioli ei wlad yn y categori bwtsiera.

Dywedodd yr ymgeisydd 21 oed: 

“Dyma’r ail waith i mi gymryd rhan yn The Skills Show mewn gwirionedd. Fe wnes i gystadlu y llynedd a chael medal efydd felly dwi’n gobeithio gwella ar hynny eleni.

“Rydw i’n weddol hyderus gan fy mod i wedi bod yn ymarfer yn ddiwyd. Dwi’n gweithio’n llawn amser yn Siop Fferm y Swans ac yn trio mynd i mewn awr ynghynt neu pan fydd gen i ddiwrnod i ffwrdd i brofi fy sgiliau a’m creadigaethau gyda’r cwsmeriaid.

“Mae pawb sy’n cystadlu yn gweithio ar safon uchel iawn felly mae cryn dipyn o bwysau arna i. Er hynny, dwi’n edrych ymlaen at ddangos yr holl waith caled dwi wedi’i wneud ac i weld i ba raddau dwi wedi gwella ers y llynedd.”

Mae’n bosibl wedyn y caiff yr enillwyr gyfle i gystadlu am le yn y tîm a fydd yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig yn WorldSkills Kazan yn Rwsia yn 2019. Mae WorldSkills yn derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop er mwyn hybu pwysigrwydd gweithlu sydd â sgiliau ar y lefel uchaf gyda’r nod o wella sgiliau lefel uchel yng Nghymru.

Wrth siarad cyn ymweld â’r Sioe ddydd Gwener 18 Tachwedd, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: 

“Rydw i mor falch fod gan Gymru gynifer o gystadleuwyr yn rownd derfynol WorldSkills UK eleni. Mae’n tystio i ddoniau’r unigolion talentog a’r gefnogaeth maen nhw’n ei derbyn gan eu teuluoedd, eu colegau, eu hysgolion a’u darparwyr hyfforddi.

“Mae cael eich dewis i gynrychioli Cymru yn y Sioe Sgiliau yn gamp ynddo’i hun a bydd unrhyw fedalau a gawn yr wythnos yma yn fonws. Dymunaf bob llwyddiant i’r 86 o gystadleuwyr a gobeithio y bydd eu llwyddiant yn ysbrydoli pobl eraill i weithio’n galed i ddod yn weithwyr sy’n meddu ar sgiliau ar y lefel uchaf yn y dyfodol.”