Diweddariadau fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.
Gwirio trwyddedau gyrru
Rydym wedi ymestyn ein cytundeb fframwaith gwirio trwyddedau gyrru tan 3 Rhagfyr 2021.
Cydrannau sbâr i gerbydau
Peidiwch ag anghofio, mae ein cytundeb fframwaith cydrannau sbâr i gerbydau yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2020. Disgwyliwn y bydd y cytundeb newydd yn fyw yng ngwanwyn 2021.
Cyhoeddwyd hysbysiad gwybodaeth ymlaen llaw (PIN) gennym yn gofyn am ddatganiadau o ddiddordeb gan y farchnad gyflenwi. Cynhaliwyd digwyddiad gennym ar 27 Tachwedd, a fynychwyd gan 11 o gyflenwyr â diddordeb.
Os ydych am barhau i ddefnyddio ein gwasanaethau o dan y cytundeb presennol nes bod y fframwaith newydd yn fyw, rhaid i chi sefydlu contract yn ôl y gofyn gyda'r cyflenwr yn eich rhanbarth erbyn 31 Rhagfyr 2020. Oherwydd yr ansicrwydd parhaus ynghylch COVID-19, rydym yn argymell bod hyn am 6 mis gydag opsiwn i ymestyn am 6 mis arall. Nid oes angen cynnal cystadleuaeth bellach. Efallai yr hoffech gynnwys cymal sy'n caniatáu i chi drosglwyddo i'r cytundeb newydd o fewn y naill gyfnod 6 mis neu'r llall.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch: NPSFleet@llyw.cymru.
Adnewyddu ein fframwaith llogi cerbydau II
Bydd y fframwaith cyfredol yn dod i ben ym mis Mehefin 2021.
Ein nod yw dechrau adnewyddu'r fframwaith hwn yn y Flwyddyn Newydd. Byddwn yn ymgysylltu â sefydliadau'r sector cyhoeddus i helpu i lywio ein strategaeth gaffael.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan yn ein grŵp ffocws cwsmeriaid (GFfC) i ddatblygu manyleb a fydd yn helpu sefydliadau i gyrraedd eu nodau datgarboneiddio.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu os ydych yn dymuno cymryd rhan yn ein grŵp ffocws cwsmeriaid, anfonwch e-bost at: NPSFleet@llyw.cymru.