Diweddariadau fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.
Cydrannau sbâr i gerbydau
Rydym yn cwblhau'r dogfennau tendro ar gyfer y fframwaith newydd cydrannau sbâr i gerbydau ac yn disgwyl dechrau'r tendr ddechrau'r haf. Dylai unrhyw gwsmeriaid a ddefnyddiodd y fframwaith cydrannau sbâr i gerbydau blaenorol eisoes fod â chontractau yn ôl y gofyn gyda'u cyflenwr presennol i gwmpasu'r cyfnod hwn. Os nad oes gennych gontract yn ôl y gofyn yn ei le, e-bostiwch NPSFleet@llyw.cymru.
Llogi cerbydau
Rydym yn gweithio ar ail-dendro ein fframwaith llogi cerbydau ac yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â grŵp ffocws cwsmeriaid i'n helpu.
Os hoffech chi gymryd rhan, anfonwch e-bost at NPSFleet@llyw.cymru.