Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Telemateg cerbydau

Mae ein tendr System Brynu Ddynamig telemateg cerbydau (DPS) yn fyw. Gall cynigwyr gyflwyno ymatebion drwy gydol y cytundeb oherwydd y cyfnod cyflwyno agored. Ar hyn o bryd rydym yn gwerthuso'r ceisiadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod cyflwyno cychwynnol, gyda'r DPS yn dechrau ar 16 Mehefin. I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.Fflyd@llyw.cymru

Llogi cerbydau ar gontract

Rydym yn gweithio ar y cytundeb newydd ar gyfer ein fframwaith llogi cerbydau ar gontract, a ddaw i ben yng ngwanwyn 2023. Byddwn yn sefydlu grŵp ffocws cwsmeriaid cyn bo hir. Os hoffech gymryd rhan, anfonwch e-bost at: CaffaelMasnachol.Fflyd@llyw.cymru

Teiars cerbydau

Mae prisiau wedi cynyddu ar gyfer un o'r cyflenwyr ar ein fframwaith teiars cerbydau, oherwydd chwyddiant. Mae'r rhestr brisio gyfredol ar gael ar GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi). I gael rhagor o fanylion, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.Fflyd@llyw.cymru.