Diweddariadau fframwaith ar gyfer Hydref 2024.
Fframwaith seilwaith gwefru cerbydau trydan
Mae cytundeb fframwaith Cymru gyfan newydd sbon ar gyfer darparu seilwaith gwefru cerbydau trydan yn fyw ac yn agored i bob sefydliad sector cyhoeddus yng Nghymru a'r DU. Mae'r fframwaith wedi'i rannu'n dair lot:
- Pwyntiau gwefru cerbydau trydan
- Technolegau newydd sy'n datblygu
- Gwasanaethau Cynghori ar Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan
Mae'r 27 o gyflenwyr, ar draws y tair rhan, yn cynnwys 21 o Fusnesau Bach a Chanolig (BBaCh) a naw o gyflenwyr yng Nghymru.
Mae opsiynau pellach ar gyfer cystadleuaeth a dyfarniadau yn ôl y gofyn yn uniongyrchol (trothwyon gwerth yn berthnasol) ar gael ar y tair lot.
Mae dogfennau fframwaith ar gael drwy'r Gofrestr Contractau ar GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi).
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch: CommercialProcurement.NetZero@gov.wales
Gweminar Cerbydau Trydan Trafnidiaeth Cymru
Ar 9 Hydref, mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnal eu gweminar Cerbydau Trydan nesaf yn y gyfres, lle byddwn yn darparu crynodeb ar lansiad ein fframwaith seilwaith gwefru cerbydau trydan. Mae'r sesiwn yn dechrau am 14:00.
Os hoffech chi fynychu neu os hoffech fwy o wybodaeth, e-bostiwch: CommercialProcurement.NetZero@gov.wales