Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Llogi cerbydau

Rydym wedi ymestyn ein fframwaith llogi cerbydau II tan 31 Awst. Rydym yn gweithio ar y cytundeb newydd a byddwn yn cyhoeddi'r dogfennau tendro y mis hwn. Rydym yn rhagweld y bydd y fframwaith newydd ar gael i'w ddefnyddio ar 1 Medi.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.Fflyd@llyw.cymru

Cydrannau sbâr i gerbydau

Rydym yn gweithio ar adnewyddu ein fframwaith cydrannau sbâr i gerbydau ac yn disgwyl i'r tendr ddechrau ddiwedd Gorffennaf/dechrau Awst gyda'r fframwaith newydd yn mynd yn fyw ar 1 Tachwedd.

Os hoffech gyfrannu at y broses adnewyddu, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.Fflyd@llyw.cymru

Telemateg cerbydau

Rydym wedi ymestyn ein fframwaith telemateg cerbydau tan 19 Mehefin 2022. Byddwn yn gwahodd cwsmeriaid i ymuno â'n grŵp fforwm categori yn ddiweddarach eleni i drafod y cytundeb newydd.

Os hoffech chi gymryd rhan, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.Fflyd@llyw.cymru