Neidio i'r prif gynnwy

Framework updates.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Prynu cerbydau trydan II

O 1 Ebrill 2025, bydd cwsmeriaid yn gallu defnyddio ein fframwaith prynu cerbydau trydan II newydd a fydd yn helpu sefydliadau i drydaneiddio eu fflydoedd i gyflawni eu huchelgeisiau sero net.

Mae'r fframwaith newydd yn ehangu ar y cytundeb blaenorol, gyda mynediad at amrywiaeth ehangach o gerbydau y gellir eu caffael gan dri chyflenwr o Gymru ar draws dau lot:

  • Lot 1: Ceir, cerbydau masnachol ysgafn (LCVs) a bysiau mini
  • Lot 2: Cerbydau nwyddau trwm (HGVs) (hyd at 7.5t)

Caiff y cytundeb ei ffurfio gan ddefnyddio system raddio er mwyn ei gwneud hi’n haws i gwsmeriaid ddyfarnu’n uniongyrchol, gan ddibynnu ar eu gofynion. Gall cwsmeriaid hefyd gynnal mini-gystadlaethau i fireinio eu gofynion ymhellach.

Mae modd cael gafael ar y dogfennau canllaw i gwsmeriaid drwy'r cyfeiriadur contractau ar GwerthwchiGymru. Am fwy o fanylion, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.Fflyd@llyw.cymru