Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Iechyd, wedi croesawu toriad sylweddol yn yr amseroedd aros hiraf ar gyfer gofal wedi'i gynllunioaf hwn.

Wrth ymweld ag adran frys Ysbyty Glan Clwyd heddiw (Dydd Iau, 21 Ionawr), dywedodd Mr Gething hefyd ei fod am weld gwelliant ym mherfformiad Adrannau Brys, yn enwedig yng Ngogledd Cymru, lle roedd lefel y perfformiad ymhell o dan y cyfartaledd cenedlaethol.

Dywedodd: 

"Fis diwethaf oedd y mis Ionawr prysuraf ar gofnod i staff Adrannau Brys. Gwelwyd cynnydd yn nifer y cleifion oedd yn ddifrifol sâl, gyda derbyniadau brys a'r nifer a aeth i'r adrannau brys mawr yn amlwg yn uwch. 

"Mae cynnydd annisgwyl mewn achosion o'r ffliw a gastroenteritis wedi cyfrannu at y pwysau, gyda mwy o achosion o'r ffliw wedi'u cadarnhau mewn ysbytai mor belled y gaeaf hwn o gymharu â'r un adeg y llynedd.

"Er gwaetha'r pwysau, cafodd mwy o gleifion eu gweld a’u trin o fewn y targed o 4 awr y mis Ionawr hwn, nag unrhyw fis Ionawr ers 2014, a diolch i staff gweithgar y GIG yw hynny. 

"Roedd pedwar bwrdd iechyd wedi gwella ar eu perfformiad 4 awr o gymharu â mis Ionawr y llynedd. Rydym wedi pasio’r targed ar gyfer ambiwlansys am 41 mis o'r bron, a gwelwyd gwelliant yn yr amser ymateb ar gyfer cleifion yn y categorïau coch ac oren o gymharu â'r un adeg y llynedd.

"Fodd bynnag, rwy'n siomedig gweld gostyngiad cyffredinol yn nangosyddion perfformiad adrannau brys, sydd wedi cael ei effeithio'n arbennig gan berfformiad gwael mewn dwy o'r tair Adran Frys yng Ngogledd Cymru. Rwyf wedi pwysleisio wrth Brif Weithredwr a Chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fy mod yn disgwyl gweld gwelliant parhaus, ar unwaith, yn dilyn cymorth sylweddol gan Lywodraeth Cymru."

Rydym wedi ymrwymo i gael atebion system gyfan i annog gwelliant - nid problem yr Adrannau Brys yn benodol yw hon ond un y gellid ei gwella gan y system iechyd a gofal cymdeithasol yn ehangach."

Croesawodd y Gweinidog welliannau sylweddol yn yr amseroedd aros hiraf ar gyfer gofal wedi'i gynllunio. 

Dywedodd: 

"Rydym yn buddsoddi mwy nag erioed yn ein Gwasanaeth Iechyd, gan gynnwys bron £50m eleni i fynd i'r afael â rhai o'r amseroedd aros hiraf. Mae'r buddsoddiad yn talu ffordd, wrth i'r ffigurau diweddaraf ddangos gwelliant parhaus yn y maes hwn. Roedd nifer y bobl a oedd yn aros mwy na 36 wythnos am driniaeth 41% yn is fis Rhagfyr 2018 o gymharu â mis Rhagfyr 2017, ac mae pob bwrdd iechyd mewn sefyllfa well nag yr oeddent y gaeaf diwethaf.

"Roedd achosion o aros dros wyth wythnos am ddiagnosis 54% yn is ym mis Rhagfyr 2018 o gymharu â mis Rhagfyr 2017, ac mae cyfnod aros o 14 wythnos am wasanaethau therapi yn dangos gwelliant o 83% dros yr un cyfnod. Disgwyliwn weld gwelliant pellach yn yr holl feysydd hyn erbyn diwedd mis Mawrth."

Tynnodd Mr Gething sylw hefyd at y ffaith bod nifer y cleifion canser a welwyd o fewn y targed o 62 diwrnod wedi cynyddu o gymharu â mis Rhagfyr 2017, a gwelwyd y nifer uchaf o bobl erioed o fewn y cyfnod targed ar gyfer blwyddyn galendr yn 2018. 

"Rwy'n falch gweld bod nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal ym mis Ionawr wedi gostwng o 8% o gymharu â mis Rhagfyr, ac o 6% o gymharu â mis Ionawr y llynedd, ac mae'n parhau i ddangos tuedd am i lawr yn yr hirdymor. Dyma arwydd bod ein hymrwymiad i fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol yn talu ar ei ganfed, ac yn helpu i leddfu'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd."