Mae bron i £34m o fuddsoddiad i gyflawni gwaith diogelwch mewn mwy na 130 o safleoedd tomenni glo ledled Cymru yn cynrychioli'r rhaglen ddiogelwch fwyaf hyd yma.

Cafodd yr arian ei gadarnhau gan y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid Mark Drakeford ar ymweliad â Phwll Glo Dyffryn Rhondda yng Nghwm Afan heddiw.
Mae'r cyllid yn rhan o Gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru.
Nawr bydd 10 awdurdod lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud gwaith ar safleoedd, gan gynnwys Cwmtyleri, lle bu tirlithriad ym mis Tachwedd y llynedd, a Tylorstown a lithrodd yn dilyn lefelau digynsail o law yn 2020.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:
Rwy'n falch o gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi bron i £34 miliwn i gefnogi 10 awdurdod lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud gwaith hanfodol ar draws 130 o domenni glo ledled Cymru.
Mae hyn yn gynnydd sylweddol o'n buddsoddiad blaenorol o £19.2 miliwn yn 2024-2025, ac yn nodi'r gwariant blynyddol uchaf ar ddiogelwch tomenni glo yr ydym erioed wedi ymrwymo iddo.
O'i gyfuno â'r buddsoddiad o £25 miliwn gan Lywodraeth y DU a gyhoeddwyd yng Nghyllideb yr Hydref, byddwn wedi neilltuo dros £100 miliwn i ddiogelwch tomenni glo yn ystod tymor y Senedd hon - gan ddangos ein hymrwymiad i amddiffyn cymunedau a mynd i'r afael â'r her seilwaith hanfodol hon.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies:
Mae'r Llywodraeth hon yn ddiwyro yn ein hymrwymiad i ddiogelu ein cymunedau.
Ar ôl ymweld â thrigolion sy'n byw ger y safleoedd hyn a chlywed eu pryderon o lygad y ffynnon, rwy'n falch o gyhoeddi'r lefel ddigynsail hon o gyllid, buddsoddiad a fydd yn sicrhau gwelliannau diogelwch credadwy i'r cymunedau hyn.
Ym mis Rhagfyr, cyflwynais y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) i'r Senedd, y ddeddfwriaeth gyntaf o'i bath yn y DU sy'n rhoi Cymru ar flaen y gad o ran datblygu systemau diogelwch cynhwysfawr ar gyfer tomenni nas defnyddir.
Os caiff ei phasio, bydd y ddeddfwriaeth arloesol hon yn sefydlu corff cyhoeddus pwrpasol i ddiogelu rhag bygythiadau gan domenni ansefydlog. Byddai'r awdurdod newydd yn cymryd cyfrifoldeb llawn dros asesu, cofrestru, monitro a rheoli'r safleoedd hyn ledled Cymru, gan helpu rhoi tawelwch meddwl i gymunedau cyfagos.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:
Mae sicrhau bod tomenni glo ledled Cymru yn parhau i fod yn ddiogel yn hollbwysig a dyma pam y gwnaeth Llywodraeth y DU ymrwymo £25m yng Nghyllideb yr Hydref tuag at y gwaith hanfodol hwn.
Dyma enghraifft arall o sut mae dwy lywodraeth sy'n gweithio mewn partneriaeth yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Steve Hunt, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot:
Rwy'n croesawu'r buddsoddiad enfawr hwn mewn ariannu gwaith diogelwch tomenni glo yng Nghymru yn fawr. Mae'r tomenni hyn yn symbol gweladwy o'r ffordd y gwnaeth cloddio am lo siapio'r cymoedd, ond flynyddoedd lawer yn ddiweddarach, mae'r tomenni'n dal i achosi problemau sy'n ymwneud â diogelwch a llygredd y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw ar frys.
Mae manylion y cyllid isod:
Ymgeisydd | Cyfanswm Gwobr |
Blaenau Gwent | £1,997,100.00 |
Pen-y-bont ar Ogwr | £1,835,000.00 |
Caerffili | £2,780,445.16 |
Caerdydd | £110,000.00 |
Merthyr Tudful | £4,279,287.00 |
Mynwy | £16,157.00 |
Castell-nedd Port Talbot | £6,345,000.00 |
CNC | £2,298,739.00 |
Rhondda Cynon Taf | £11,493,605.00 |
Torfaen | £1,982,521.00 |
Wrecsam | £823,928.93 |
CYFANSWM | £33,961,783.09 |