Mae'r gynddaredd yn glefyd angheuol sy'n effeithio ar y system nerfol ac yn cael ei achosi gan feirws. Mae'n glefyd hysbysadwy.
Mae'n gallu taro unrhyw mamal gan gynnwys pobl. Ni fu achos o'r gynddaredd ym Mhrydain ers 1922. Ond mae pryderon y gallai'r clefyd ddod i'r wlad trwy anifeiliaid sy'n cael eu mewnforio'n anghyfreithlon.
Amheuon a chadarnhad
Os oes gennych unrhyw amheuon y gall y gynddaredd fod ar eich anifeiliaid, cysylltwch ag Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar 0300 303 8268 ar unwaith.
Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio'r achosion hyn.
Arwyddion clinigol
Gallai'r arwyddion clinigol canlynol fod yn bresennol:
- ymosodedd a cholli'r ofn o bobl ac anifeiliaid eraill
- newid sydyn yn yr ymddygiad ac ymosod heb reswm
- gwendid yn y cyhyrau a thrawiadau
- glafoeri a methu llyncu
- hydroffobia
- marw o barlys cynyddol
Trosglwyddo ac atal
Mae'r feirws yn cael ei drosglwyddo fel arfer trwy frathiad neu grafiad gan anifail heintiedig - ci fel arfer.
Rhaid i anifeiliaid sy'n teithio i neu o Brydain ar basbort anifeiliaid anwes gael eu brechu rhag y gynddaredd.