Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r datganiad hwn yn rhoi gwybodaeth am allu'r boblogaeth 16 oed neu hŷn i siarad Cymraeg yn ôl eu cyfeiriadedd rhywiol a'u hunaniaeth rhywedd ar sail yr hyn a gofnodwyd ganddynt yng Nghyfrifiad 2021.

Ar 5 Medi 2024, fe wnaeth Emma Rourke, y Dirprwy Ystadegydd Gwladol, ysgrifennu i Ed Humpherson (Swyddfa Ystadegau Gwladol), sef Pennaeth y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, i wneud cais fod yr amcangyfrifon hunaniaeth rhywedd o Gyfrifiad 2021 ddim bellach yn ystadegau swyddogol achrededig ac yn hytrach wedi’u dynodi fel ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad. Cadarnhaodd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau y newid yn y ddynodiad ar 12 Medi 2024. Er mwyn adlewyrchu’r newid yma mewn dynodiad, mae’r logo ystadegau swyddogol achrededig wedi’i dynnu o’r datganiad yma.

Ar 6 Rhagfyr 2022, cyhoeddwyd bwletin ystadegol yn crynhoi canlyniadau cychwynnol Cyfrifiad 2021 ar Y Gymraeg yng Nghymru. Ers hynny, rydym wedi defnyddio data'r Cyfrifiad i gyhoeddi crynodebau pwnc ar Y Gymraeg yn ôl nodweddion y boblogaethCyfansoddiad cartrefi yng Nghymru o ran y GymraegChyfraddau trosglwyddo’r Gymraeg ar yr aelwyd yn ôl rhyw.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) dablau data ar sgiliau Cymraeg y boblogaeth sy'n byw yng Nghymru yn ôl cyfeiriadedd rhywiol (SYG)hunaniaeth rhywedd (SYG) o Gyfrifiad 2021. Mae'r datganiad ystadegol hwn yn crynhoi'r canlyniadau hynny.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Y Gymraeg yn ôl cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd (Cyfrifiad 2021) , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 84 KB

ODS
84 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Cian Siôn

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.