Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad hwn yn adolygu’r dystiolaeth am y berthynas rhwng y Gymraeg, ac ieithoedd eraill sydd yn berthnasol i sefyllfa ieithyddol Cymru, a’r economi.

Mae hefyd yn nodi meysydd ymchwil y gellid eu harchwilio a’u datblygu ymhellach. Yn ogystal ag archwilio’r dystiolaeth mewn perthynas â’r Gymraeg, mae’r adolygiad yn asesu’r dystiolaeth sydd ar gael ynghylch ieithoedd y bernir eu bod yn rhannu nodweddion tebyg gyda’r Gymraeg, o ran eu cyd-destun sosioieithyddol.

Prif ganfyddiadau

Mae’r rhan fwyaf o’r dystiolaeth a adolygwyd yn canolbwyntio ar ddeall neu asesu effaith ffactorau ieithyddol ar newidynnau economaidd, megis canlyniadau'r farchnad lafur, ac agweddau unigolion tuag at fenter a busnes.

Mae’r adolygiad yn awgrymu fod llai o dystiolaeth empirig o draweffaith polisïau, gweithgareddau a thueddiadau economaidd ar iaith.

Mae rhai astudiaethau yn cynnig tystiolaeth o werth canfyddedig sgiliau iaith Gymraeg mewn rhai busnesau, a thystiolaeth bod rhai cwsmeriaid yn ffafrio gwasanaethau cyfrwng Cymraeg.

Prin yw'r dystiolaeth feintiol a ganfuwyd yn yr adolygiad o werth masnachol cynhyrchion a gwasanaethau dwyieithog. Fodd bynnag, mae rhai astudiaethau wedi casglu barn cwmnïau am effaith ganfyddedig defnyddio'r Gymraeg ar drosiant a thwf busnes.

Adroddiadau

Y Gymraeg a'r economi: adolygiad o'r dystiolaeth a'r dulliau , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Y Gymraeg a'r economi: adolygiad o'r dystiolaeth a'r dulliau (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 345 KB

PDF
345 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Catrin Redknap

Rhif ffôn: 0300 025 5720

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.