Yn ystod ei araith, bu'r Ysgrifennydd Iechyd yn trafod pwysigrwydd sicrhau bod gennym y nifer cywir o nyrsys sydd â'r sgiliau a'r wybodaeth gywir.
Yn ystod ei araith, bu'r Ysgrifennydd Iechyd yn trafod pwysigrwydd sicrhau bod gennym y nifer cywir o nyrsys sydd â'r sgiliau a'r wybodaeth gywir. Siaradodd ynghylch pwysigrwydd Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) a chyhoeddodd y byddai Llywodraeth Cymru, wrth baratoi at fis Ebrill 2018 pan fyddai'r Ddeddf yn dod i rym, yn cyhoeddi'r Canllawiau Statudol gofynnol yn y chwe wythnos nesaf.
Dywedodd Vaughan Gething:
"Cymru yw'r wlad gyntaf yn Ewrop i ddeddfu ar lefelau staff nyrsio. Aethom ati i gymryd yr awenau, gan rymuso nyrsys a sicrhau bod yr adnoddau yn eu lle iddyn nhw ofalu'n dyner am gleifion. Rwy'n falch y bydd y canllawiau sydd wedi'u datblygu ar y cyd â'r gweithlu nyrsio ac ar eu cyfer, yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf."
Wrth siarad am y cap o un y cant ar gyflog gweithwyr y sector cyhoeddus, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd wrth y gynhadledd:
“Rydym yn gwybod bod nifer y nyrsys sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn parhau i gynyddu o un flwyddyn i'r llall. Mae mwy o nyrsys yn gweithio yma yn ein Gwasanaeth Iechyd nag erioed o'r blaen, ac mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu.
"Fodd bynnag, rydyn ni'n cydnabod bod heriau i'w hwynebu wrth recriwtio nyrsys ym meysydd gofal sylfaenol ac eilaidd, ac mae hyn yn sail i'n gwaith o ddatblygu ein hymgyrch lwyddiannus Gwlad, Gwlad. Hyfforddi Gweithio Byw i ddenu mwy o staff ar gyfer y dyfodol.
"Mae cyflog a'r cap ar gyflog y sector cyhoeddus yn fater i'r rheini sydd eisoes yn y proffesiwn a'r rheini sy'n ystyried gyrfa ym maes nyrsio. Rydym wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i ddod â'r cap ar gyflog gweithwyr y sector cyhoeddus i ben a rhoi codiad cyflog dra haeddiannol i weithwyr ledled y DU.
"Pe byddai'r cap yn cael ei godi, byddai'n rhaid i Lywodraeth y DU ariannu hynny. Byddai gwneud hynny ein hunain yn golygu y byddai £50 miliwn yn cael ei wario o gyllideb y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ynddo’i hun. Byddai hyn yn bygwth miloedd o swyddi'r sector cyhoeddus ac yn effeithio ar y gwasanaethau rydyn ni'n eu gwerthfawrogi ac yn dibynnu arnynt. Rwy’n ymwybodol nad ydy gweithwyr GIG eisiau gweld codiad mewn cyflog o sgîl diswyddiadau mewn llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus eraill."
"Rwyf wedi ysgrifennu ddwywaith at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, Jeremy Hunt, yn galw arno i ddod â'r cap i ben. Nid yw wedi bod ddigon cwrtais i ymateb imi hyd yn hyn."