Mae Gweinidog Cyllid Cymru ac Ysgrifennydd Cyllid yr Alban wedi galw am fwy o eglurder gan Lywodraeth y DU ynglŷn â chyllid, cyllidebau’r dyfodol a phensiynau’r sector cyhoeddus ar ôl Brexit.
Dywedodd Gweinidog Cyllid Cymru, Rebecca Evans:
“Byddaf yn galw am eglurder ynglŷn â’n cyllidebau, ac yn pwyso am ddeialog barhaus ac ystyrlon rhwng Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig ynglŷn â’r heriau rydym yn eu hwynebu.
“Gyda'r cloc yn tician wrth inni nesáu at y diwrnod ymadael, mae'n hollol hanfodol sicrhau ein bod yn rhan ganolog o'r broses benderfynu a’n bod yn gallu paratoi ar gyfer effaith Brexit.
“Byddaf yn pwyso hefyd am fwy o eglurder a sicrwydd ynglŷn â'r gost sy'n gysylltiedig â newidiadau Llywodraeth y DU i bensiynau’r sector cyhoeddus, a sut mae'n bwriadu cyllido hynny.
“Ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru ac arweinwyr llywodraeth leol at y Canghellor yr wythnos diwethaf i geisio eglurder. Mae’r awdurdodau lleol wrthi’n llunio’u cyllidebau terfynol ac mae’n destun pryder fod ansicrwydd o hyd ynglŷn â chyllid.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid yr Alban, Derek Mackay:
“Mae’r cyfarfod heddiw yn gyfle i Lywodraeth y DU roi’r eglurder y mae gwir ei angen ynglŷn â chyllid yn y dyfodol, yn ogystal â manylion am y cymorth a fydd ar gael i helpu i amddiffyn economi’r Alban rhag canlyniadau ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd.
“Mae cyllid yr UE yn cefnogi swyddi yn yr Alban - o brosiectau seilwaith mawr i gynnal cymunedau gwledig a sicrhau cyllid ymchwil ar gyfer ein prifysgolion, a gydnabyddir yn rhyngwladol. Dyna pam y mae Llywodraeth yr Alban yn benderfynol o amddiffyn y cyfrifoldeb cyllidol y brwydrodd mor galed amdano a dal gafael ar y budd y mae cyllid yr UE wedi’i roi i gynifer o sectorau ac unigolion yn yr Alban.
“Dim ond ychydig wythnosau sydd tan y diwrnod pan fwriedir ymadael â’r UE, ac rydym yn dal yn hynod bryderus am y diffyg manylion ynglŷn â’r trefniadau i gymryd lle ffrydiau ariannu’r UE, o gofio mor bwysig ydynt i unigolion, busnesau a chymunedau ledled yr Alban.
“Byddaf heddiw’n galw ar Brif Ysgrifennydd y Trysorlys i’n sicrhau na fydd yr Alban ar ei cholled yn ariannol yn sgil ymadael â’r UE, ac i roi gwarant y bydd arian ar gael yn lle’r cyfan o gyllid yr UE a fydd yn cael ei golli.
“Fel y nodwyd yn yr adroddiad ar gyflwr yr economi gan Brif Economegydd Llywodraeth yr Alban, mae’r ansicrwydd ynglŷn â Brexit yn effeithio’n barod ar ddangosyddion allweddol, a byddai Brexit heb gytundeb yn amharu’n ddifrifol ar economi’r Alban.
“Rhaid i Lywodraeth y DU ddiystyru ar unwaith unrhyw bosibilrwydd o ymadael heb gytundeb, ac ymestyn proses Erthygl 50. Fodd bynnag, fel llywodraeth gyfrifol, byddwn hefyd yn parhau – ac yn wir yn dwysáu – ein gwaith o baratoi orau y gallwn ar gyfer pob canlyniad.
“Ar y cyd â Gweinidog Cyllid Cymru, byddaf yn pwyso ar Brif Ysgrifennydd y Trysorlys i fynd ati mewn modd cytbwys a theg i dalu am yr holl gostau sydd ynghlwm wrth newidiadau Llywodraeth y DU i bensiynau’r sector cyhoeddus. Mae angen inni gael eglurder a chytundeb ar fyrder ynglŷn â chyllid yn y dyfodol, er mwyn gallu cynllunio a chanolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus effeithlon ac effeithiol.”