Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, yn Llundain, cyfarfu Gweinidogion Cyllid Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon am y tro cyntaf â Steve Barclay, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ddiwrnod yn unig cyn i Gyllideb y DU gael ei chyhoeddi, y newid yng nghyllidebau’r gweinyddiaethau datganoledig, a maint y newid hwnnw, oedd ar frig yr agenda.

Galwodd Rebecca Evans, Kate Forbes a Conor Murphy am ymrwymiad i ymgysylltu o ddifrif, ar lefel na welwyd mo’i thebyg o’r blaen, mewn perthynas â phenderfyniadau gwariant sy’n cael effaith ar y rhanbarthau datganoledig. Pwyswyd yn benodol am sicrwydd y bydd cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i fynd i’r afael ag argyfwng y Coronafeirws.

Tynnodd y Gweinidogion sylw hefyd at yr effeithiau niweidiol y mae’r ansicrwydd parhaus a’r addasiadau a wnaed ar y funud olaf wedi eu cael ar eu proses hwythau ar gyfer pennu eu cyllidebau, ac ar eu gallu i gynllunio ymlaen llaw.

Dywedodd Rebecca Evans:

“Os yw Llywodraeth y DU wir o ddifrif ynglŷn â sicrhau tegwch ar draws y DU gyfan, rhai iddi ddangos hynny yn y Gyllideb fory. Ar hyn o bryd, mae Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020/21 yn dal i fod £300m yn is nag oedd ddegawd yn ôl.

“Chawson ni ddim manylion gan y Prif Ysgrifennydd beth y dylid ei ddisgwyl o’r Gyllideb fory. Ond fe wnes i ddadlau dros fuddsoddi mwy mewn seilwaith – yn arbennig y rheilffyrdd – a thros fwy o wariant ar ymchwil a datblygu i dyfu economi Cymru.

“Trafodwyd y Coronafeirws hefyd a dywedais ei bod yn hanfodol darparu cyllid yn seiliedig ar angen. Mae hyn yn arbennig o wir gan ystyried y sefyllfa o ran poblogaeth Cymru, sy’n boblogaeth hŷn yn gymharol, a’r effeithiau penodol rydyn ni’n debygol o’u gweld ar economi Cymru. Roedd y llifogydd yn fater arall a drafodwyd gennym a gofynnais am gyllid ychwanegol o gronfeydd wrth gefn y Trysorlys i’n galluogi i ymateb i effaith ddinistriol y stormydd diweddar yng Nghymru.”  

Dywedodd Ms Forbes, Ysgrifennydd Cyllid yr Alban: 

“Yn y cyfarfod heddiw, anogais Lywodraeth y DU i gylawni ar yr ymrwymiadau ariannu a wnaed yn Etholiad Cyffredinol Rhagfyr 2019 yn eu cyllideb yfory.

“Galwais hefyd am ddiwedd ar y degawd o fesurau cyni sydd wedi’u gorfodi gan Lywodraeth y DU ac am eglurder ar fyrder ar sut y bydd yn sicrhau na fydd yr Alban ar ei cholled o ran ffrydiau ariannu’r UE o fis Rhagfyr ymlaen pan ddaw’r cyfnod pontio i ben.

“Trafodwyd yr ymateb i COVID-19 a byddwn yn parhau i weithio’n adeiladol â  Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill ar hyn gan gynnwys ystyried yr effaith ariannol a chymorth i fusnesau a chymunedau yr effeithir arnynt.”

Dywedodd Conor Murphy, Ysgrifennydd Cyllid Gogledd Iwerddon:

“Roedd heddiw’n gyfle ynghyd â’m cydweithwyr o Gymru a’r Alban i godi meysydd sy’n peri pryder i bob un ohonom gan gynnwys disodli cyllid Ewropeaidd a phwyso ar y Prif Ysgrifennydd bod rhaid inni gael y cyllid angenrheidiol i ddelio â’r heriau sy’n deillio o’r Coronafeirws.

“Achubais y cyfle hefyd i danlinellu sut y mae’r Doll teithwyr Awyr yn dreth annheg ac yn rhwystr i dwf economaidd a chysylltedd rhanbarthol, yn ogystal â chodi eto Hyder a Chyflenwad a Chyllid Degawd Newydd, Dull Newydd.  

“Roedd y neges heddiw’n glir – mae degawd o gyni wedi ein gadael â heriau ariannol sylweddol. Rhaid i Weinyddiaethau Datganoledig gael cyllid digonol yn awr er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus teilwng i’r bobl rydym yn eu cynrychioli..”