Neidio i'r prif gynnwy

Y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd De Cymru yn cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ar draws y rhanbarth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De yn cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ledled y rhanbarth, gyda golwg ar gael clywed barn y trigolion am yr hyn sy’n flaenoriaeth iddynt yn eu cymunedau lleol. 
Neithiwr, cynhaliodd Alun Davies ei ail gyfarfod cyhoeddus o’r tasglu yn Red House Merthyr, sef y ganolfan diwydiannau celfyddydol a chreadigol yn Hen Neuadd y Dref.
Yn dilyn y cyfarfod dywedodd: 
“Mae’n amlwg bod yr ymwybyddiaeth a’r ddealltwriaeth o’r hyn sy’n cael ei wneud gan y tasglu yn cynyddu. Mae’r sesiynau sydd wedi eu cynnal hyd yn hyn wedi bod yn amhrisiadwy o ran llunio ein blaenoriaethau.
“Mae’n hanfodol serch hynny ein bod yn cynnal hyn ac yn gwrando ar farn y cymunedau drwy gydol oes y tasglu.
“Dyma rai o’r prif themâu sydd wedi dod i’r amlwg hyd yn hyn yn ein trafodaethau â’r bobl: pwysigrwydd meithrin cysylltiad rhwng busnesau ac ysgolion lleol i roi hyder a sgiliau i bobl ifanc er mwyn iddynt allu llwyddo yn y byd gwaith; a phwysigrwydd meithrin cysylltiad rhwng seilwaith megis safleoedd diwydiannol, ysgolion, colegau a mentrau trafnidiaeth, a thrwy hynny, sicrhau bod y cymoedd wedi eu cysylltu yn dda.
“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n teimlo i’r byw am eu cymuned i ddod draw i ddweud eich dweud wrth y tasglu. Rydym yn awyddus i glywed eich barn i’n helpu i lunio ein gweledigaeth ar gyfer y cymoedd.”
Sefydlwyd y tasglu gan y Llywodraeth ym mis Gorffennaf gyda’r bwriad o ychwanegu at y gwaith sydd eisoes wedi cael ei wneud, ac eisoes yn cael ei wneud ledled cymoedd y De. Y bwriad yw gwneud hynny mewn ffordd sy’n cydgysylltu’n well ac yn targedu anghenion cymunedau’r cyhoedd yn well.Ewch i dudalen Facebook i ddysgu rhagor am y tasglu a’i waith neu er mwyn cadw lle mewn un o’r cyfarfodydd cyhoeddus.