Neidio i'r prif gynnwy

Yr wythnos hon, aeth Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, i'r Ffindir i ddysgu am sut mae'r wlad yn gofalu am blant a theuluoedd ac yn darparu gofal cymdeithasol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Awst 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel rhan o'i rhaglen lywodraethu bum mlynedd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weddnewid system y blynyddoedd cynnar yng Nghymru i sicrhau ei bod yn rhoi'r cymorth iawn i bob plentyn.

Yn ystod ei ymweliad deuddydd, aeth y Gweinidog i weld nifer o brosiectau gwahanol sy'n hyrwyddo dulliau amgen o ddarparu ar gyfer teuluoedd, y blynyddoedd cynnar a gofal cymdeithasol. 

Aeth i:

  • Y Ganolfan Deuluoedd yn ninas Vantaa Mae'r ganolfan yn cydlynu gwasanaethau iechyd y cyhoedd, cymdeithasol ac addysgol ar gyfer plant a theuluoedd, mewn rhwydwaith sydd hefyd yn cynnwys y gwasanaethau a gynigir gan gyrff anllywodraethol, plwyfi a rhanddeiliaid gwirfoddol yn ogystal â gwasanaethau arbenigol;
  • Kasvun tuki, gwasanaeth ar gyfer Ymyrraeth Gynnar a broceru gwybodaeth i gefnogi plant. Mae'r gwasanaeth yn hyrwyddo Ymyrraeth Gynnar fel adnodd i weithwyr proffesiynol i ddefnyddio ymyraethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi plant a theuluoedd;
  • Canolfan Cymorth i Deuluoedd Tuomarila yn ninas Espoo. Mae'r ganolfan yn cynnig gwasanaethau cefnogi ac adsefydlu teuluoedd, ac mae'n datblygu gwaith llesiant plant a diogelu plant. Nod gwasanaethau i deuluoedd â phlant yw canfod problemau posibl yn gynnar a darparu triniaeth o ansawdd uchel. Mae'r ganolfan yn canolbwyntio ar atal problemau a chefnogi teuluoedd i ddod o hyd i'w hadnoddau eu hunain i ymdopi â phroblemau bob dydd. 
Cyfarfu'r Gweinidog hefyd â swyddogion o Weinyddiaeth Addysg a Diwylliant y wlad a'r Weinyddiaeth Materion Cymdeithasol ac Iechyd, Cronfa Blant Itla ac Undeb Canolog Llesiant Plant.Dywedodd Huw Irranca-Davies: 

"Fel Gweinidog Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am blant, y blynyddoedd cynnar a gofal cymdeithasol, dw i am sicrhau ein bod ni'n darparu'r gwasanaethau gorau posibl sy'n diwallu anghenion pobl ledled Cymru.

"Roeddwn i'n falch iawn o gael ymweld â'r Ffindir yr wythnos hon i ddysgu mwy am ddulliau'r Ffindir o ddarparu ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal cymdeithasol. 

"Fel llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod plant o bob cefndir ym mhob rhan o Gymru yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Dyna pam dw i'n arwain y gwaith o weddnewid system y blynyddoedd cynnar i wneud yn siwr ei bod yn cynnig y cymorth iawn i bob plentyn, yn enwedig y rheini o gefndiroedd difreintiedig. Sicrhau bod ein plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd yw'r ffordd orau o dorri'r cylch tlodi, a chodi lefel dyheadau a chyrhaeddiad pawb.

"Byddwn nawr yn ystyried p'un a allwn drosglwyddo rhai o'r dulliau arfer gorau a welais ar waith yn y Ffindir i Gymru."