Neidio i'r prif gynnwy

Roedd newyddiadurwyr blaenllaw o Qatar, Tsieina, India ac Awstralia yn Neuadd Llangoed ddoe i drafod pob peth Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon gydag un o Weinidogion Cymru, yr Arglwydd Elis Thomas.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r newyddiadurwyr sydd yma yng Nghymru yn dilyn taith hedfan gyntaf Qatar Airways i Gaerdydd, ar daith a arweinir gan Croeso Cymru i roi blas iddynt ar brif gyrchfannau twristiaeth, bwyd ac atyniadau Cymru.

Mae hyn yn ategu'r Cytundeb Partneriaeth Marchnata rhwng Llywodraeth Cymru a Qatar Airways a fydd yn arwain at fwy o weithgarwch ym marchnadoedd Asia a'r Môr Tawel i godi ymwybyddiaeth o'r llwybr cyswllt rhwng Doha a Chaerdydd. Bydd hefyd yn hybu Cymru fel cyrchfan wyliau.

Dywedodd Yr Arglwydd Elis-Thomas:

Mae'r daith hedfan uniongyrchol rhwng Maes Awyr Caerdydd a Doha yn rhoi mwy o gyfleoedd i Gymru ar draws sectorau, yn enwedig yn y sector twristiaeth. Rydym o hyd yn achub ar bob cyfle i ddangos yr hyn sydd gennym i'w gynnig yma yng Nghymru ac mae'r daith hon yn gyfle i'r neges honno gyrraedd cynulleidfa gyffrous newydd.

Mae'r adborth sydd wedi dod i law heddiw ac oddi wrth bartneriaid a phobl bwysig o Qatar a thu hwnt yn ystod y diwrnodau diwethaf, yn atgyfnerthu'r hyn y gallwn ei gynnig i dwristiaid, yn ogystal â'n bwyd. Mae hefyd yn dangos bod y croeso a geir yng Nghymru yr un mor gynnes ag erioed. Mae gennym dros 600 o gestyll, tri pharc cenedlaethol, dwy Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol a rhai o wyliau cerdd mwyaf gwych y byd. Caiff yr holl brofiadau hyn eu cynnig mewn gwlad sydd ond yn 140 o filltiroedd o un pen i'r llall. 

Mae'r ymweliad hwn yn caniatáu inni ddangos amrywiaeth ac ansawdd yr hyn sydd i'w gynnig yma ac edrychaf ymlaen at fanteisio ymhellach ar y cyswllt hwn.

Dywedodd Calum Milne, Rheolwr Gyfarwyddwr Llangoed Hall:

Roedd yn bleser cael croesawu'r Arglwydd Elis-Thomas a'i westeion o’r hediad cyntaf o Doha Qatar i Gaerdydd yma i Llangoed Hall. Mae Llangoed wedi hen feithrin perthynas â rhanbarth y Gwlff a'i dinasyddion ac mae'r cysylltiad newydd hwn yn ymestyn llaw cyfeillgarwch i Qatar a thu hwnt. Mae cyfeillgarwch a chysylltiadau  newydd wedi eu ffurfio ac edrychaf ymlaen at agor Canolbarth Cymru i ymwlewyr ychwanegol o’r Gwlff a thu hwnt.

Dywedodd Saurabh Sinha, Times of India:

Rwy'n hoff iawn o gefn gwlad godidog Cymru, mae mor wyrdd ac mae'r bobl mor groesawgar. Dwi wedi bod i Brydain sawl gwaith ond byth i Gymru – ac mae’r wlad wedi gwenud argraff fawr arnaf i ac rwy'n siŵr bydd fy darllenwyr yn mwynhau darllen am y wlad wych, groesawgar hon.

Mae'r wibdaith chwe diwrnod hon o'r De a'r Canolbarth yn cynnwys taith mewn hofrennydd ar hyd arfordir Sir Benfro, ymweliad â phwll glo Big Pit, traethau a chestyll, a chyfle i flasu ein bwyd a diod. Gwneir hyn yn y gobaith y bydd yn datblygu partneriaethau gyda'r cyfryngau yn Qatar, yn Asia ac mewn ardaloedd o amgylch y Môr Tawel, ac yn hyrwyddo Cymru fel cyrchfan dwristiaeth a chynhyrchwr bwyd o fri.