Neidio i'r prif gynnwy

Mae ymrwymiad i wella safonau lles gwael i gŵn ar safleoedd magu cŵn yng Nghymru wedi ei gyhoeddi gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae adroddiad gan Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru sy’n adolygu’r Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 wedi’i gyhoeddi heddiw. 

Mae’r argymhellion yn cynnwys yr angen am: 

  • Fwy o gysondeb wrth archwilio a gorfodi rheoliadau magu
  • Adolygiad o’r broses drwyddedu, gan gynnwys defnyddio cyfradd staff i gŵn llawndwf sy’n addas ar gyfer y safleoedd magu
  • Safonau lles gwell i bob ci magu yn hytrach na chŵn ar safleoedd trwyddedig yn unig

I sicrhau gwelliannau a chysondeb wrth archwilio a gorfodi rheoliadau magu, a gaiff ei wneud gan Awdurdodau Lleol, mae prosiect cwmpasu wedi’i sefydlu i bennu pa adnoddau ychwanegol sydd eu hangen.  

Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, bydd cyllid ar gyfer cynllun peilot tair blynedd yn cael ei ddarparu.  Bydd hyn yn creu arbenigedd trwy hyfforddiant arbenigol ac uwchsgilio staff penodol yr Awdurdodau Lleol. 

Mae’r adolygiad hefyd yn cefnogi’r gwaharddiad ar werthu cŵn trwy drydydd parti, ac mae’r Gweinidog wedi ymrwymo i ddeddfu ar y mater hwn cyn diwedd y Senedd hon. 

Meddai’r Gweinidog Lesley Griffiths:

Mae pob un ohono ni am weld y safonau lles uchaf ar gyfer anifeiliaid yng Nghymru.  Mae gwella safonau lles ar gyfer cŵn ar safleoedd magu yn rhan o’r gwaith yma.

Hoffwn ddiolch i’r Grŵp Iechyd a Lles Anifeililaid am ymateb mor gyflym a llunio eu hadroddiad cynhwysfawr.  Gallai rhai o’r argymhellion gael eu darparu trwy ddeddfwriaeth sy’n bodoli eisoes ac rwy’n awyddus i weld rhain yn datblygu ar fyrder cyn cynnig gwelliannau i’r Rheoliadau Bridio presennol.

Bydd y cyfuniad o reoliadau newydd ar werthu anifeiliaid anwes a chyllid penodol ar gyfer gorfodi chyflenwi’r Rheoliadau Bridio yn arwain at welliannau hirdymor i safonau lles cŵn bach sy’n cael eu magu yng Nghymru.