Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething, wedi nodi ei weledigaeth ar gyfer meddygaeth fanwl arloesol i wella iechyd a darparu dyfodol cynaliadwy i GIG Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ac yntau'n ymweliad â Chanolfan Ganser Rutherford yng Nghasnewydd, Cyhoeddodd Mr Gething strategaethau newydd i drawsnewid patholeg a therapiwteg fanwl yng Nghymru.

Dywedodd:

“I fynd i'r afael â heriau yn y dyfodol oherwydd baich cynyddol afiechyd rhaid inni ganolbwyntio'n fwy ar atal, canfod yn gynnar a thriniaethau personol wedi'u targedu. Bydd meddygaeth fanwl yn cefnogi ymagwedd fwy personol at iechyd a gofal yn fwyfwy. 

“Yng Nghymru, rydym eisoes yn gwneud cynnydd ym maes meddygaeth fanwl ac rwy’n yn hyderus y gallwn chwarae rhan fyd-eang yn yr ymdrech i fanteisio ar ei photensial. Mae GIG Cymru ar fin gwireddu'r manteision sylweddol y gellir eu sicrhau trwy roi'r prawf cywir i'r claf cywir ar yr adeg gywir.

“Mae ein cynllun hirdymor 'Cymru Iachach' yn cydnabod pwysigrwydd mynd ati i ganfod ac ymyrryd mewn problemau er mwyn atal salwch ac estyn annibyniaeth.”  

Esboniodd y Gweinidog fod gan Lywodraeth Cymru weledigaeth glir ar gyfer manteisio ar dechnoleg i gyflwyno meddygaeth fanwl ym maes diagnosteg a therapi a fydd yn sicrhau dyfodol cynaliadwy i GIG Cymru.

“Mae Canolfan Ganser Rutherford yng Nghasnewydd, a oedd y cyfleuster cyntaf yn y DU i gynnig therapi pelydr proton i gleifion canser, yn enghraifft wych o ddatblygu therapïau manwl yma yng Nghymru. Mae'n enghraifft berffaith o sut rydyn ni'n cydweithio i gyflwyno arloesiadau technolegol i wella triniaeth,” meddai. 

“Heddiw rwyf wedi cyhoeddi ein Datganiad o Fwriad ar gyfer Cynhyrchion Meddyginiaethol Therapiwtig Uwch, sy'n nodi sut y byddwn yn cyflwyno therapiwteg fanwl, fel therapi pelydr proton, yng Nghymru.

“Ochr yn ochr â hyn rwyf wedi cyhoeddi datganiad o fwriad i drawsnewid gwasanaethau patholeg. Mae hyn i gyd yn adeiladu ar ein buddsoddiad diweddar mewn gwasanaethau diagnostig megis yr Academi Ddelweddu newydd Genedlaethol i Gymru.

“Yn y flwyddyn ariannol hon, rwy'n falch o ddarparu cyllid ychwanegol o  £2.3m i gefnogi cyflwyno profion genetig newydd ynghyd â £2m yn ychwanegol i gefnogi cynlluniau cenedlaethol ar gyfer trawsnewid gwasanaethau diagnostig, gwyddorau iechyd a  gwasanaethau cynhyrchion meddyginiaethol uwch yn GIG Cymru.”