Mae'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James AC, wedi llongyfarch y Bartneriaeth Dysgu, Medrau ac Arloesi (LSkIP) a Phartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol (RSP) y de-ddwyrain.
Lansiwyd y cynllun mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn ystod y sioe fawreddog SgiliauCymru yn y Motorpoint Arena heddiw (13 Hydref). Daeth cyflogwyr a rhanddeiliaid allweddol ynghyd i'r sioe.
Mae'n amlinellu'r sectorau â blaenoriaeth ar gyfer de-ddwyrain Cymru. Maen nhw'n gysylltiedig yn uniongyrchol â thwf economaidd cynaliadwy ac yn cynnal prosiectau seilwaith rhanbarthol mawr:
- Gweithgynhyrchu a Deunyddiau Uwch
- Adeiladu
- Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol
- Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu a'r
- Economi Dynol Sylfaenol (Gofal, Iechyd ac Addysg).
Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd y Gweinidog:
"Mae Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn ganolog i bolisi sgiliau Cymru.
"Yng Nghymru, yr uchelgais yw sbarduno gweithgarwch cyflogaeth a sgiliau drwy annog darparwyr sgiliau i gysylltu eu cynlluniau cyflenwi a chyllido â chyfleoedd a grëwyd gan fuddsoddiadau strategol a thwf busnes yn eu rhanbarthau."
"Bydd cynlluniau cyflogaeth a sgiliau rhanbarthol, a grëwyd gan bartneriaethau sgiliau rhanbarthol, yn sbarduno penderfyniadau cynllunio darparwyr ac yn darparu sylfaen tystiolaeth allweddol. O ganlyniad, gellir gwneud penderfyniadau i fuddsoddi mewn sgiliau yn y dyfodol.
"Dros y pum mlynedd nesaf, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu amgylchedd dysgu ôl-16 addas a fydd yn rhoi Cymru ar y blaen o'i chymharu â gwledydd eraill y DU a’r byd. Mae cyflenwi sgiliau rhanbarthol yn ganolog i hyn.”
Gellir dod o hyd i fersiwn ar-lein o Gynllun Cyflogaeth a Sgiliau'r de-ddwyrain yma: http://sewso.infobasecymru.net/IAS/explorer/resources/.