Heddiw, mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, yn lansio ymgynghoriad ar y cynnig i ymestyn y cyfnod hysbysu byrraf y mae’n rhaid i landlordiaid ei roi o dan y Ddeddf Rhentu Cartrefi wrth iddynt geisio adennill meddiant lle nad oes tor-contract wedi digwydd, o 2 fis i 6 mis.
Bydd y newidiadau arfaethedig yn golygu diwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 cyn iddi ddod i rym.
Dyma’r cynigion sydd dan sylw yn yr ymgynghoriad mewn perthynas â chontractau sydd heb ddyddiad dod i ben:
- ymestyn y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir wrth geisio adennill meddiant lle nad oes tor-contract o 2 fis i 6 mis
- atal landlord rhag cyflwyno hysbysiad i geisio adennill meddiant lle nad oes tor-contract, o fewn 6 mis cyntaf y contract; a
- gosod cyfyngiad o 6 mis ar y gallu i gyflwyno hysbysiad o’r fath ar ôl i hysbysiad blaenorol ddod i ben.
Mae’r cynigion eraill yn cynnwys:
- cyfyngu ar allu landlordiaid i adennill meddiant pan fo llys wedi canfod bod landlordiaid wedi ceisio troi tenant allan yn ddialgar; a
- cyfyngu ar y gallu i gyflwyno hysbysiadau adennill meddiant yn achos landlordiaid sy’n torri cyfreithiau eraill yn ymwneud â thai, sef peidio â chael Tystysgrif Perfformiad Ynni neu dystysgrif ddiogelwch nwy dilys.
Dywedodd Julie James:
Mae’r ddeddf yn rhoi sail newydd a symlach ar gyfer gosod eiddo preswyl yng Nghymru, sy’n rhoi manteision sylweddol i unrhyw un sy’n rhentu eu cartref. Er hynny, mae modd i ni wneud mwy i leddfu pryderon pobl am ‘droi allan heb fai’.
Byddai’r cynigion hyn yn rhoi tawelwch meddwl i denantiaid ynghylch eu contractau, ond hefyd maent yn cydnabod bod rhesymau dilys pam fod angen i landlord adennill meddiant o’i eiddo. Mae’n bwysig cael cydbwysedd yn hyn o beth.
Mae’r ddeddf eisoes yn cydnabod y bydd rhai achosion o dor-contract yn parhau i ddigwydd, fel achos o ôl-ddyledion rhent. Nid yw ein cynigion yn newid hyn, ond mae’n golygu bod yn rhaid i landlord ddefnyddio’r llwybr mwyaf priodol wrth geisio adennill meddiant, yn hytrach na dibynnu ar ‘droi allan heb fai’..
“Diolch i’r Ddeddf, bydd hefyd yn haws i landlord adennill meddiant o eiddo gadawedig heb orchymyn llys. Bydd hyn yn galluogi rhywun i ail-osod eiddo sy’n wag cyn gynted â phosibl.Mae rhentu tai o ansawdd yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu ym maes tai yng Nghymru. Hyderaf y gallwn oresgyn y rhwystrau terfynol hyn a rhoi’r Ddeddf hon ar waith, er mwyn i denantiaid gael budd ohoni cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn.