Neidio i'r prif gynnwy

Ddoe y Gweinidog Tai ac Adfywio, â datblygiad Cwrt yr Orsaf Dân sydd newydd ei gwblhau yng Ngilfach, Bargoed i ddysgu mwy am y ffordd y mae'r cartrefi newydd hyn yn rhoi hwb i'r gymuned.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar ôl cwrdd â rhai o'r trigolion newydd, a chynrychiolwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chymdeithas Tai Unedig Cymru, dangoswyd y Gweinidog o amgylch y datblygiad newydd o fflatiau un ystafell wely a chartrefi dwy ystafell wely.

Mae Cwrt yr Orsaf Dân ar safle hen orsaf dân Bargoed ac fe'i datblygwyd gan Gymdeithas Tai Unedig Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a Chwmni Adeiladu WRW Cyf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid grant o £1.4 miliwn ar gyfer y cynllun hwn sydd hefyd yn darparu eiddo llai. Mae galw mawr am eiddo llai ymhlith y bobl hynny o fewn y fwrdeistref y mae'r dreth ystafell wely yn effeithio arnynt. 

Dywedodd y Gweinidog:

"Mae cael cartref braf mewn cymuned ddiogel wedi'i brofi'n ffactor sy'n dylanwadu'n fawr ar iechyd a lles, ac mae'n chwarae rôl bwysig o ran gwella cyfleoedd bywyd. 

"Mae buddsoddi arian cyhoeddus yn y gwaith o adeiladu ac ailwampio cartrefi hefyd yn cyfrannu at economïau cenedlaethol a lleol, gan greu a chefnogi swyddi a chyfleoedd hyfforddi.

"Mae hyn yn enghraifft wych o fanteision gwaith partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig er mwyn cyrraedd ein targed uchelgeisiol ar gyfer cartrefi fforddiadwy. Wrth gwrs, bydd cyrraedd y targed yn dipyn o her, ond rydyn ni'n benderfynol o wneud hynny."