Neidio i'r prif gynnwy

Mae Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, wedi dweud bod gwasanaeth cefnogaeth gan gymheiriaid i bobl sydd ag anhwylderau bwyta yn gam enfawr ymlaen.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Gwasanaeth Arbenigol ar gyfer Anhwylderau Bwyta Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (SEDS) yn darparu cefnogaeth ar ffurf ymyrraeth gynnar. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth gan gymheiriaid sy’n torri tir newydd wedi’i darparu gan unigolion sydd â phrofiad bywyd o anhwylderau bwyta.

Mae’r rhaglen, sydd wedi’i hehangu drwy gyllid gan Lywodraeth Cymru, yn derbyn atgyfeiriadau gofal sylfaenol ac yn cefnogi pobl ar draws pob lefel risg. Mae’n cynnig cefnogaeth gan gymheiriaid i’r unigolion eu hunain sydd ag anhwylder bwyta ac i’w gofalwyr. Ehangu’r model llwyddiannus hwn ar draws ardaloedd eraill o Gymru yw’r gobaith.

Gwnaeth Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, sydd wedi siarad cyn hyn am ei phrofiad personol ei hunan o anhwylder bwyta, ganmol y rhaglen fel adnodd hanfodol yn y gwasanaethau ymyrraeth gynnar sydd ar gael i bobl yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog:

Mae’r gwasanaethau hyn yn gam enfawr ymlaen i bobl sy’n ymrafael ag anhwylderau bwyta. Drwy’r gwasanaethau, mae pobl yn cael cyngor a chefnogaeth gan unigolion sydd â phrofiad eu hunain o’r anhwylderau hyn.

Rwy’n gwybod pa mor ddinistriol yw’r effaith y bydd anhwylderau bwyta yn ei chael a bod gwasanaethau fel hyn wirioneddol yn gallu achub bywydau.

Mae o leiaf 1 o bob 50 o bobl yn y DU yn byw gydag anhwylder bwyta ar hyn o bryd. Felly, mae angen inni sicrhau bod pawb sydd eu hangen yn gallu cael y gwasanaethau cymorth hanfodol hyn a’u bod yn hygyrch i bawb.

Mae’r wythnos hon (24 Chwefror i 3 Mawrth 2025) yn Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta. Eleni, mae’r pwyslais ar y ffaith bod "anhwylder bwyta yn gallu effeithio ar unrhyw un".

Mae Emma-Jayne Hagerty yn arweinydd clinigol ar gyfer anhwylderau bwyta ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac mae’n gweithio ar ddatblygu llwybr anhwylderau bwyta cenedlaethol i gleifion.

Meddai:

Mae ymyrraeth gynnar yn allweddol. Mae angen canolbwyntio ar salwch sy’n dod i’r amlwg a hefyd ar y cyfnod hwnnw pan fydd salwch megis dechrau – y nod yw atal yr angen am ofal mwy dwys.

Rydyn ni am sicrhau bod pobl yn cael yr help sydd ei angen arnyn nhw cyn gynted â phosibl ac atal yr angen am ofal mwy dwys a gofal yn yr ysbyty.

Mae’r cynnydd yn parhau o ran gwella’r gofal i bobl ag anhwylderau bwyta yng Nghymru:

  • Mae’r amseroedd aros i unigolion ar gyfer cael eu hasesu a chael triniaeth wedi lleihau i 4 wythnos mewn rhai byrddau iechyd.
  • Mae model gwasanaeth ymyrraeth gynnar i Gymru gyfan yn cael ei ddatblygu gan Weithrediaeth y GIG mewn partneriaeth â GIG Cymru. Bydd y model hwn yn canolbwyntio ar hybu adferiad iechyd a lleihau’r angen am gael gofal fel claf mewnol.
  • Mae grŵp gorchwyl a gorffen yn datblygu strategaethau wedi’u targedu ar gyfer cefnogaeth ARFID (anhwylder cymeriant bwyd – osgoi/cyfyngu). Mae gwasanaethau a ariennir ar gael yn barod ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (fel rhan o’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed) ac ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
  • Mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod gan staff gofal iechyd ledled Cymru y sgiliau priodol i drin pobl ag anhwylderau bwyta. Mae modiwlau hyfforddiant ar-lein yn cael eu datblygu.
  • Mae’r Rhwydwaith Anhwylderau Bwyta, sy’n rhan o Weithrediaeth y GIG, yn arwain prosiect enghreifftiol Bevan o’r enw ‘ceisio cymorth nawr’, i annog pobl i geisio cymorth yn gynnar os ydynt yn meddwl efallai fod ganddynt anhwylder bwyta neu os ydynt yn poeni am rywun.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £100,000 bob blwyddyn yng ngwasanaethau BEAT Cymru.
  • Mae astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer uned anhwylderau bwyta i Gymru gyfan yn cael ei chynnal, ac mae Ysbyty Hillview yng Nglynebwy yn darparu gofal arbenigol i oedolion ar gyfer hyd at 8, sy’n bosibl ei ehangu i 15 o welyau.

Cymorth ar gael

Mae llinell gymorth BEAT yn rhoi cefnogaeth i bobl ag anhwylderau bwyta a'u teuluoedd wrth aros i glinigwyr eu gweld. Gellir cysylltu trwy BEAT.

Neu, mae Llinell Gymorth Iechyd Meddwl C.A.L.L. yn gallu gwrando a helpu hefyd.